Skip to main content

Hanes a Threftadaeth

Cafodd ein tirweddau eu ffurfio o rewlifoedd Oes yr Iâ i'r Chwyldro Diwydiannol. Wedi'i weu trwy bob golygfa y mae hanes cyfoethog i gael ei archwilio. Bydd ein llwybrau, profiadau, atyniadau a chymunedau yn mynd â chi yn ôl mewn amser.

Eitemau gwerthfawr

Cafodd cam cyntaf Oes yr Haearn ei enwi'n gyfnod y "Llyn Fawr" ar ôl i weithwyr Cronfa Ddŵr Llyn Fawr, Rhigos, ddarganfod casgliad syfrdanol o arfau ac offer.

Rhwng 1911 a 1913, roedd y dynion yn draenio llyn a oedd yn bodoli eisoes i greu'r gronfa ddŵr pan ddaethon nhw o hyd i'r eitemau oedd wedi'u cadw'n berffaith, sydd bellach yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, mewn mawnog.

Darllenwch ragor am y stori hynod ddiddorol yma.

Llyn Fawr haul cauldron, now on display at the National Museum of Wales, Cardiff.

Y dyddiau hyn, mae modd gwibio dros gronfa ddŵr Llyn Fawr ar Phoenix, y wifren wib â sedd gyflymaf yn y byd, yn Zip World Tower.

Dyma'r unig atyniad o'i fath yng nghanolbarth a de Cymru, ac mae ganddo hefyd Tower Flyer ar gyfer plant bach, Tower Coaster lle rydych chi'n troi a throelli o amgylch y safle, a Tower Climber sy’n gwrs gweithgareddau ar dri uchder.

Cofiwch am gaffi Cegin Glo hefyd, lle mae croeso i gŵn.

 

Zip World Tower

Mae modd i'r rheiny y mae'n well gyda nhw rywle distawach ymlacio ar ben Mynydd y Rhigos ar ôl taith gerdded heddychlon yn y goedwig a mwynhau pysgod a sglodion o siop Penalunas, neu bicnic, a gwylio'r haul yn machlud dros y gronfa ddŵr.

Castell Llantrisant

Dimond adfeilion sydd ar ôl o'r castell yma o’r 13eg ganrif. Does dim amheuaeth y cafodd ei adeiladu yn Llantrisant oherwydd lleoliad pen bryn y dref a golygfeydd am filltiroedd, a hynny er mwyn gweld y gelyn yn agosáu.

Mae modd i chi weld gweddillion y tŵr ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cwrdd â'r geifr preswyl, sy'n pori trwy'r llystyfiant sy'n gorchuddio'r safle!

Goats at Llantrisant Castle

Mae gan Gaeau'r Castell hen stociau (gwych ar gyfer tynnu llun) a Neuadd y Dref, sydd wedi sefyll ochr yn ochr â'r castell ers dros 700 o flynyddoedd. Dyma atyniad poblogaidd i bobl o bob oed, mae'n adrodd hanes Rhyddfreinwyr enwog a di-ofn Llantrisant a'u buddugoliaeth o dan enw’r Tywysog Du yn ystod Brwydr Crecy.

Llantrisant Guildhall

Mae arddangosfeydd yn dathlu bywyd Dr William Price, preswylydd enwocaf y dref; derwydd hynod ac arloeswr amlosgi modern. 

Darganfyddwch ysbrydion a chwedlau, brwydrau gwaedlyd, Brenhinoedd sydd wedi'u dal a llawer yn rhagor, gydag arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithgareddau i blant a helfa drysor.

Darganfyddwch ardal ehangach Llantrisant gyda'r teithiau cerdded treftadaeth, eu cyfuno â thaith gerdded Comin Llantrisant i fwynhau byd natur. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld â Siop Goffi ac Oriel y Butcher's Arms i gael paned o de a chacen.

Hen Gastell

Mae Plac Glas yn nodi'r man lle safai Castell Nos. Credir i'r castell gael ei adeiladu gan ddisgynyddion Iestyn ap Gwrgant, Brenin Cymreig olaf Morgannwg, a safodd yn falch dros Gwm Rhondda ac a barhaodd dan reolaeth y Cymry ymhell ar ôl i'r Normaniaid orchfygu tir cyfoethocach i'r de.

Er nad oes llawer o'r castell ar ôl, mae ei amgylchoedd yn syfrdanol ac yn llawn hanes.

Maerdy Res. Picture by Gary Pain

Maerdy Res. Picture by Gary Pain

Crwydrwch ôl troed Glofa'r Maerdy, a fu'n gweithredu am dros 100 mlynedd o 1875. Mae modd i chi weld traciau’r tramiau lle cafodd glo ei gludo oddi ar y safle a lle roedd hen loriau ystafelloedd lampau a chawodydd.

Roedd Glofa'r Maerdy bob amser yn denu'r asgell chwith a'r actifyddion – roedd yn cael ei henwi'n 'Little Moscow'. Dim ond ychydig iawn o linellau piced oedd eu hangen yn ystod streiciau 1984-85 gan na thorrodd yr un glöwr y streic.

Dilynwch y llwybrau trwy olygfeydd hardd i Gronfa Ddŵr y Maerdy, man poblogaidd am bicnic a nofio gwyllt. Bwriwch olwg ar y llwybrau cerdded, yma.

Maerdy Miners Strike

Pont dros ddŵr

Mae brwydr, athrylith beirianyddol ac ymroddiad llwyr William Edwards wrth iddo geisio adeiladu pont un bwa dros Afon Taf ym Mhontypridd yn rhywbeth a fydd yn cael ei gofio am amser maith.

Rhoddodd gynnig arni dro ar ôl tro, cyn dadorchuddio ei bont odidog ym 1756. Ar y pryd, hon oedd y bont un bwa hiraf yn y byd, teitl a gafodd ei gipio yn y pen draw gan y Rialto yn Fenis.

 

Mae modd cerdded dros y bont hyd heddiw – mae y tu allan i gatiau'r parc ac mae'n arwain at risiau Amgueddfa Pontypridd.

Crwydrwch o gwmpas Pontypridd ar hyd y llwybr treftadaeth. Cyfunwch hyn â thaith gerdded o amgylch Comin Pontypridd i weld y Maen Chwyf a Chylch yr Orsedd.

Old Bridge, Pontypridd

Cyndad yr Eisteddfod

Mae Comin Pontypridd a'r Maen Chwyf hynafol yn edrych dros y Maes, yn ogystal â Chylch yr Orsedd a gafodd ei ddylunio gan y gwneuthurwr clociau lleol, Evan Davies (mae modd gweld un o’i glociau mawr addurnedig yn Amgueddfa Pontypridd). Yn adnabyddus fel man lle byddai beirdd ac athrylithoedd yn ymgynnull, defnyddiwyd y Maen Chwyf gan Iolo Morgannwg ym 1814 fel lleoliad ar gyfer Seremoni'r Orsedd gyntaf.

Dilynwch olion traed cyndad yr Eisteddfod ar hyd taith gerdded Comin Pontypridd. Cyfunwch hyn a'r llwybr llafar am ragor o wybodaeth.

Pontypridd Common Rocking Stone and Iolo Morgannwg

Gwlad y Gân

Mae cerflun sy'n sefyll yn nhref hanesyddol Aberdâr yn dathlu’r arweinydd côr, Caradog. Mae'n un o arweinwyr amlycaf yr Eisteddfod, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei fuddugoliaethau yng nghystadlaethau corawl Llundain.

Caradog oedd yr un a ddaeth â swyn canu Cymraeg i sylw'r byd. Roedd Cymru'n cael ei hadnabod fel "cenedl afreolus" yn flaenorol, ond roedd y balchder cenedlaethol a'r angerdd a ddisgleiriodd wrth i'w gorau ganu wedi sicrhau enw "Gwlad y Gân" i Gymru.

Caradog statue unveiling

Darganfyddwch ei stori yn Amgueddfa Cwm Cynon a dysgwch ragor am Aberdâr ar y llwybr treftadaeth.

 

Dysgwch ragor am Aberdâr ar y llwybr treftadaeth

Cynon Valley Museum

Anthem fechan

Wrth gerdded ym Mharc Coffa Ynysangharad y dechreuodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gân Hen Wlad Fy Nhadau.

Mae Pontypridd yn falch o fod yn fan cyfansoddi Anthem Genedlaethol Cymru, a gafodd ei chyflwyno i Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Cymru yn Aberdâr ym 1861.

Cwblhaodd Evan a James James y gân ym 1856 a chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf ym Maesteg gan Elizabeth John o Bontypridd.

Hen Wlad Fy Nhadau manuscript

The original manuscript of Hen Wlad Fy Nhadau.

Saif cerflun yn anrhydeddu'r pâr ym Mharc Coffa Ynysangharad ac mae lleoliadau amrywiol ledled y dref yn gysylltiedig â nhw, gan gynnwys cyn dafarndai lle bu James James yn perfformio fel telynor.

Darganfyddwch ragor yn Amgueddfa Pontypridd a mwynhau Llwybr Treftadaeth Pontypridd.

Evan and James James statue

Dechreuad yr Eisteddfod

Ar ôl Seremoni'r Orsedd gyntaf Iolo Morgannwg wrth y Maen Chwyf, cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf yn Aberdâr. Roedd yr achlysur i'w gynnal ar dir comin i'r gogledd o'r dref, ond cafodd yr achlysur ei symud ar frys i neuadd y farchnad oherwydd tywydd gwael.

Bellach, mae'r neuadd yn Ardal Farchnad ffyniannus sy'n werth ymweld â hi. Mae'n cynnwys y caffi Cymraeg cyfeillgar, 'Helo Coffi', a siop gysylltiedig 'Blas ar Gymru', sy'n llawn anrhegion a chynnyrch unigryw o Gymru. Mae'r neuadd yn arddangos Plac Glas gyda balchder.

aberdare park

Dychwelodd yr Eisteddfod i Aberdâr ym 1956 ac mae modd i chi weld Meini'r Orsedd yng nghanol Parc Aberdâr.

Mae gyda'r parc lyn cychod Fictoraidd gyda chychod pedal alarch a draig, yn ogystal â llawer o fannau agored, maes chwarae antur a pharc sblasio i'r plant. Mae'n gartref i ffynnon gywrain, a roddwyd i'r parc i nodi achlysur coroni Brenin George V. Mae'r ffynnon yn un o ddwy yn y byd, gyda'r llall yn sefyll y tu allan i Westy'r Raffles yn Singapore.

Crwydrwch Barc Aberdâr a thref Aberdâr ar hyd y llwybr treftadaeth.

Blas ar Gymru in Aberdare Market Quarter

Lido Cenedlaethol Cymru

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru – ddewch chi ddim o hyd i un arall tebyg iddo.

Ac yntau wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad, a bydd ar agor yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd â thocynnau ar gyfer yr Eisteddfod, mae'r Lido modern yn adferiad syfrdanol o'r pyllau arddull Art Deco sydd wedi bod yn y parc ers 1927.

Mae'n cadw rhai o'i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys teils to Canoldirol, yr ystafelloedd newid a chawodydd awyr agored a gatiau tro.

Ymwelwch â'r arddangosfa uwchben Caffi'r Lido i gael gwybod rhagor.

Lido Ponty

Stori wych

Mae'n stori ddiffiniol o'n gorffennol, yn stori eithriadol am ddiwydiant a ffurfiodd ein tirweddau, ein cymunedau, ein diwylliant, ein cariad at gerddoriaeth a chanu ac a gadarnhaodd ein balchder a'n hangerdd.

Mae'n stori rhy hir ac eang i'w hailadrodd i gyd ar yr un pryd. O agor y pwll cyntaf a chloddio'r miloedd o dunelli o lo o'n tirwedd a'u hanfon ar gwch, trên a thram i'r dociau yng Nghaerdydd ac yna ymlaen i weddill y byd.

Fe wnaethon ni helpu i danio'r Chwyldro Diwydiannol.

Rhondda landscape

Gweithiodd cenedlaethau o ddynion dan ddaear am gannoedd o flynyddoedd, gan weld olau dydd ar ddydd Sul yn unig.

Creodd y gwragedd a'r plant gymunedau clos lle roedden nhw'n gefn i'w gilydd, ac mae hyn i'w weld hyd heddiw yn y rhesi o dai teras sydd ar hyd ein ffyrdd a'n mynyddoedd.

Roedd canu a chymdeithasu yn rhan ganolog o hwyl y glowyr, a dyma wreiddiau ein corau a'n bandiau byd-enwog.

Views from the Bwich - Terraced Housing - Rhondda-2

Daw'r stori honno'n fyw yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. Wedi’i adeiladu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr, lle dywedir bod y siec gwerth £1 miliwn gyntaf yn y byd wedi’i hysgrifennu, mae gan y profiad hynod ddiddorol yma daith dan ddaear, cyfle i fynd ar y dram olaf o lo i’r wyneb, arddangosfeydd rhyngweithiol a llawer yn rhagor.

Cewch gwrdd â'r dynion a oedd yn gweithio’n lowyr pan oedden nhw'n fechgyn ifainc. Maen nhw bellach yn dywyswyr, a byddan nhw'n rhannu eu straeon.

Darganfyddwch stori Joe, glöwr ifanc a oedd yn gweithio mewn amodau mor erchyll, fe ysbrydolon nhw y stori glasur 'A Christmas Carol' gan Charles Dickens.

Mae tocynnau Teithiau'r Aur Du yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn hanner pris trwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Collier Joe

Dyn cyflymaf y byd

Griffith Morgan (Guto Nyth Bran) was the fastest man in the world – he could catch a bird in flight.

Cafodd Griffith Morgan ei eni ym 1700 ac mae'n fwy adnabyddus fel Guto Nyth Brân. Yn ôl y sôn, fe oedd y dyn cyflymaf yn y byd. Roedd mor gyflym y gallai ddal aderyn yn hedfan neu ysgyfarnog yn rhedeg nerth ei thraed.

Yn ôl y sôn, rhedodd o'i gartref yn ardal Porth i Bontypridd ac yn ôl cyn i'r tegell orffen berwi. Bu'n rasio ac yn ennill droeon o weithiau, gyda chefnogaeth ei reolwr Siân o'r Siop, a ddaeth yn wraig iddo. Roedd yn mwynhau ymddeoliad o redeg pan osodwyd her na allai ei cholli gan Dywysog Tywyll Bedwas. Brwydrodd Guto yn galed i ennill y ras, ond fe fethodd, gan gwympo i freichiau Siân a marw.

Mae wedi'i gladdu yn Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno ac mae modd i chi ymweld â'i fedd.

Mae Rasys Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob blwyddyn i ddathlu ei chwedl. Mae rhedwr dirgel enwog, sydd wedi cynnwys Linford Christie, Jamie Phillips a Chris Coleman yn y gorffennol, yn cario ffagl Nos Galan o Eglwys Llanwynno i'r dref i gychwyn y rasys. Mae yna rasys i redwyr elît, rasys hwyl a rasys i blant, yn ogystal ag arddangosfa tân gwyllt a hwyl i'r teulu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Nos Galan St Gwynnos

Hanes cyfoethog

Nantgarw yw unig grochendy'r 19eg Ganrif yn y DU.

Mae'r porslen hardd sy'n cael ei wneud yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw wedi addurno byrddau bwyd teuluoedd brenhinol ac mae i'w weld yn amgueddfeydd yn Llundain a thu hwnt.

 

nantgarw landing

Safle Sanctaidd

Roedd Pen-rhys yn arfer bod yn un o'r safleoedd mwyaf sanctaidd yn Ewrop, gyda phererinion yn cerdded i gopa'r mynydd i ymdrochi yn nŵr iachaol y Santes Fair a sefyll lle gwelwyd y Forwyn Fair yn yr awyr uwchben Cwm Rhondda. Mae cerflun hardd o'r Forwyn Fair a babi i'w weld ar y safle. Mae Pererindod Pen-rhys, sy'n 31 milltir o hyd o Gaerdydd i Ben-rhys, wedi ailagor, gan ddenu ymwelwyr, pererinion modern a cherddwyr.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma

Penrhys