Taith Pyllau Glo Cymru
Dewch i gwrdd â’r dynion oedd yn gweithio ym mhyllau glo peryglus Cwm Rhondda pan oedden nhw’n fechgyn a gadewch iddyn nhw rannu'r stori ryngwladol hynod ddiddorol a ddechreuodd yma ar garreg ein drws.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i adeiladu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr. Mae nifer o weithfeydd gwreiddiol y pwll yn dal yn eu lle, gan gynnwys y corn simnai enfawr sy'n denu'r llygad.
Ymunwch â chyn-lowyr wrth iddyn nhw fynd â chi o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Y stop cyntaf yw'r ystafell lampau, lle cewch chi'ch helmed cyn dechrau'r antur.
Byddwch chi'n cael clywed straeon personol ac ingol am fywyd bechgyn y pwll glo, yn y dyddiau pan oedd Cwm Rhondda'n bwysig iawn yn ddiwydiannol wrth i'w “aur du” (glo) helpu i bweru’r byd ac yn ysbrydoli mawrion fel Isambard Kingdom Brunel.
Ewch ar daith gyda DRAM! Dyma brofiad rhithwir lle rydych chi'n reidio'r dram olaf o lo at wyneb y pwll - daliwch eich gafael yn dynn! Bydd y plant wrth eu bodd!
Porwch drwy'n harddangosfeydd, sy'n dod â hanes yn fyw. Dewch i weld sut olwg oedd ar gartrefi, sut roedd prydau'n cael eu paratoi a pha ddillad roedd pobl yn eu gwisgo.
Ewch i grwydro'r cwrt, yr hen loches bomiau a’r efail lle’r oedd ceffylau’r lofa’n derbyn gofal.
Os hoffech chi baned a chacen, neu hyd yn oed pryd o fwyd swmpus, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â Chaffi Bracchi. Mae’r caffi yn talu teyrnged i’r bracchis – y siopau coffi a'r parlyrau hufen iâ a gafodd eu hagor ar draws Cwm Rhondda gan ymfudwyr o'r Eidal a gafodd eu denu yma gan gyfleoedd y diwydiant glo.
Ar ddiwedd eich ymweliad â Thaith Pyllau Glo Cymru, rhaid i chi alw heibio i'r siop anrhegion, sy'n llawn cofroddion lleol, lampau glowyr, llwyau caru a chynnyrch lleol gan gynnwys cwrw a seidr.
Ble: Trehafod, CF37 2NP
Math: Attractions, Activities