Skip to main content
food and drink hero

Bwyd a diod

Byddwch yn barod i flasu'r gorau o Gymru - a thu hwnt.

Strapline

O fwytai annibynnol sy’n bragu eu cwrw eu hunain, i rai o’r pysgod a sglodion gorau yn y DU!

Dant melys? Byddwch chi wrth eich bodd â'n hufen iâ o Rondda Cynon Taf, sy'n cael ei werthu ledled Cymru. Mae gyda ni hefyd gacennau a danteithion cartref sydd wedi'u gwneud â ryseitiau sydd wedi para cenedlaethau.

Gallwch ddisgwyl amrywiaeth o fwydydd stryd, byrbrydau ysgafn, prydau maethlon a chynnyrch blasus sydd wedi'i fagu a'i dyfu'n lleol.