Skip to main content

Bwyd i’w fwyta oddi ar y safle

Ar gyfer pan rydych chi am barhau i gerdded, neu eisiau cyrraedd golygfan!

Mae ein strydoedd mawr yn llawn llefydd gwych i fwynhau bwyd i fynd. Mwynhewch goffi Eidalaidd a byrbrydau melys a sawrus sy'n berffaith er mwyn cynnal eich egni ar eich teithiau. Mwynhewch eich bwyd wrth gerdded neu yn un o'n parciau prydferth. Ewch â phicnic a mentrwch i'r mynyddoedd. Mae pysgod a sglodion arobryn yn blasu hyd yn oed yn well o olygfan y Rhigos.