Llwybr Treftadaeth Comin Pontypridd
Gan roi cipolwg diddorol i chi ar hanes Comin Pontypridd, bydd y Llwybr Treftadaeth yma yn eich tywys o gwmpas lleoliadau pwysig, gan goffáu pobl, lleoedd ac achlysuron nodedig sy'n rhan o hanes yr ardal.Uchafbwynt y daith a Chomin Pontypridd yn gyffredinol yw Maen Chwyf (The Rocking Stones) eiconig Pontypridd, sy'n fan pwysig ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a seremonïau barddol lleol er 1814. Mae'r ffurfiad cerrig yn cynnwys clogfaen rhewlifol 10,000 mlwydd oed, sy'n waddod o Oes yr Iâ, wedi'i amgylchynu gan Gerrig Gorsedd.Mae'r daith 1.6km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen ar Ffordd yr Ysbyty, ger hen Ysbyty Bwthyn Pontypridd. Mae modd cyfuno'r daith yma gydag ymweliad â'r dref - mae Llwybr Llafar Pontypridd yn ffordd wych o ddarganfod rhagor am hanes Pontypridd.Nodwch fod y daith yn dilyn llwybr tarmac ar y cyfan, ond mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad, gyda rhai esgyniadau / disgyniadau serth.








