Zip World Tower
Cewch hedfan drwy'r awyr o gopa Mynydd y Rhigos ar y weiren sip gyflymaf yn y byd, yn Zip World Tower.
Rhondda Cynon Taf yw'r unig leoliad yn Ne a Chanolbarth Cymru sy'n gartref i'r brand eiconig, Zip World.
Agorodd Zip World Tower ar safle hen Lofa’r Tŵr, y pwll glo hynaf yn y DU a oedd yn gweithio’n barhaus, yn 2008, ond cyn hynny bu'r glowyr yn brwydro i gadw’r safle ar agor.
Mae modd i ymwelwyr â Zip World Tower fwynhau dathliad o orffennol diwydiannol y safle, gyda phethau cofiadwy o'r diwydiant glo yng Nghaffi Cegin Glo a thema ddiwydiannol i'r Tower Climber newydd sbon.
Yn rhan o Zip World Tower mae 'Phoenix' - gwifren wib gyflymaf y byd â seddau. Caiff gwibwyr eu cymryd i ben Mynydd y Rhigos, sydd â golygfeydd panoramig cyn belled â Bannau Brycheiniog a Phen y Fan, am daith wefreiddiol yn ôl i lawr.
Mae Tower Flyer wedi'i gynllunio ar gyfer plant llai, fel bod modd iddyn nhw gael blas o'r wefr hefyd.
Mae Zip World Tower hefyd yn gartref i Tower Climber, sef cwrs antur sydd wedi'i osod yn uchel uwchben y ddaear. Gyda thri llawr, llwyfan gwylio a 55 o rwystrau ac elfennau i'w hwynebu, dyma'r cwrs mwyaf yn y DU ar yr adeg. Os ydych chi ddigon dewr, mae modd i chi hefyd brynu tocyn i fynd ar y siglen ar y diwedd – gan wibio drwy’r awyr dros dirweddau godidog. Mae gan Tower Climber hefyd gwrs iau i blant llai.
Mae Bar a Bistro Cegin Glo ar y safle ar agor i bob ymwelydd – gan gynnwys cŵn (yn yr ardaloedd awyr agored yn unig) – ac yn gweini amrywiaeth o fyrbrydau a phrydau mwy i’w mwynhau ochr yn ochr â’r golygfeydd godidog.
Ble: Hirwaun, CF44 9UF
Math: Attractions, Activities