Skip to main content

Llwybr Treftadaeth Aberdâr

Gan roi cipolwg diddorol ar hanes Tref Aberdâr, bydd y Llwybr Treftadaeth yma'n eich tywys o gwmpas safleoedd hanesyddol allweddol a lleoliadau Plac Glas, sy'n coffáu pobl, lleoedd ac achlysuron nodedig sy'n rhan o orffennol cyfareddol Aberdâr.

Ymhlith prif gyrchfannau'r llwybr mae Neuadd y Farchnad a groesawodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, cerflun o'r cymeriad lleol a cherddor enwog Caradog, a 'Bwthyn y Frenhines Mary', bwthyn glöwr traddodiadol yr ymwelodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary ag ef yn 1912.

Mae'r daith gerdded 0.75km o hyd yn cychwyn o Neuadd y Farchnad ac yn gorffen yn yr Hen Bush Inn yn y dref. 

Nodwch fod y llwybr yn wastad ar y cyfan, er mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad.

Ble:Aberdar, CF44 7EB

Math:Short walk, Historic walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Aberdar, CF44 7EB

Nodweddion

  • Close to a town centre