Penaluna's Famous Fish and Chips
Mae Penaluna’s Famous Fish and Chips wedi'i ymrwymo i ddarparu bwyd blasus o'r ansawdd uchaf. Ac yntau wedi'i enwi ymhlith y 3 siop pysgod a sglodion orau yn Rhondda Cynon Taf am saith blynedd yn olynol, mae'r busnes hefyd wedi ennill gwobrau am ei ymgyrch bwyd môr ac mae ei holl benfras yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
Mae'n cynnig dewis blasus o ffefrynnau siopau pysgod a sglodion, gan gynnwys prydau mewn bocsys, prydau teulu a byrbrydau i'r rheiny sydd eisiau pryd o fwyd llai.
Mae hefyd â dewisiadau di-glwten ac mae'n gweini cyrri fegan, sglodion fegan a chroquette pys stwnsh.
Mwynhewch fwyd al fresco yn syth o'r papur. Mae Penaluna’s wedi'i leoli'n agos at olygfan syfrdanol mynydd y Rhigos. Ewch i gasglu eich bwyd a'i fwynhau gyda golygfa fendigedig. Gwyliwch bobl yn gwibio lawr y llinell sip yn Zip World Tower.
Ble: Hirwaun, CF44 9SW
Math: