Llety Grwpiau
Mae digon o lety ar gael ar gyfer grwpiau sy'n ymweld â Rhondda Cynon Taf. O westai moethus i dai bync, mae rhywbeth ar gyfer pob poced a chwaeth.
Gwesty Cwm Dâr, Aberdâr
Wedi'i leoli mewn 500 erw o goetiroedd hardd, porfa a rhostir ar ochr y mynydd a chyda dau lyn prydferth, mae gan Lety Parc Gwledig Cwm Dâr ddigon i'w gynnig i gerddwyr, beicwyr, grwpiau a phawb sy'n dymuno dianc o brysurdeb bywyd y ddinas.
![Dare Valley Country Park](/image-library/Accommodation/DVCP/DVCP5.xdcdb7db4.jpg?w=1000&h=1000&crop=1000,900,0,50)
Gwesty'r Parc Treftadaeth
Mae Gwesty'r Parc Treftadaeth mewn lleoliad cyfleus drws nesaf i Daith Pyllau Glo Cymru. Mae ganddo amrywiaeth o ystafelloedd uwchraddol i ystafelloedd traddodiadol.
![Heritage Park Hotel](/image-library/Heritage-Park-Hotel.xf35c6a21.jpg?crop=1000,900,175,0)
Gwesty Neuadd Llechwen
Amrywiaeth o ystafelloedd en-suite dwbl, ystafelloedd gyda gwelyau pâr ac ystafelloedd i'r teulu mewn gwesty gwledig moethus ym mhrydferthwch a thawelwch Cwm Cynon.
![Llechwen Hall Hotel](/image-library/Llechwen-Hall-Hotel.xb8b11469.jpg?crop=1000,900,175,0)
Gwesty Gwledig y Tŷ Newydd
Mae gan Westy Gwledig Tŷ Newydd wyth ar hugain o ystafelloedd gwely prydferth. Mae'n cynnig y cyfleusterau diweddaraf wrth gadw llawer o gymeriad a steil tŷ gwledig moethus y cyfnod Sioraidd.
![Ty Newydd Hotel](/image-library/Ty-Newydd-Hotel.x14108481.jpg?crop=1000,900,27,0)
Gwesty Miskin Manor
Amrywiaeth o ystafelloedd en-suite dwbl, ystafelloedd gyda gwelyau pâr ac ystafelloedd i'r teulu sy'n cynnwys ystafelloedd moethus a gwelyau pedwar postyn, mewn gwesty sy'n sefyll yn amgylchoedd godidog y Maenordy, nid nepell o dref hanesyddol Llantrisant.
![miskin3](/image-library/Accommodation/MiskinManor/miskin3.xd492d5ae.jpg?w=1000&h=1000&crop=1000,900,0,50)