Sy'n addas i gŵn yn RhCT
Os mai mynd am dro ar ben mynydd, crwydro mannau agored y sir, neu weld rhaeadrau sy'n mynd â'ch bryd chi, RCT yw'r lle perffaith i gŵn ddod â'u perchnogion!Mae'n amhosibl peidio â gwenu wrth weld cŵn yn mwynhau anturiaethau ac yn llyfu 'puppachino'.
Mae croeso mawr i gŵn (a'u perchnogion!) ger yr afon yn y bwyty yma. Cewch chi fwyta tu mewn a'r tu allan yn yr awyr agored, ac mae danteithion cŵn y tu ôl i'r cownter.
Ar ôl i bawb lenwi'u boliau, beth am fynd am dro hir ar hyd yr afon i Barc Coffa Ynysangharad? Mae modd crwydro'r parc hyfryd yma, cerdded ar bwys yr afon neu hyd yn oed ymuno â Llwybr Taith Taf sy'n cysylltu Caerdydd ag Aberhonddu, trwy ganol Rhondda Cynon Taf!
Rhowch gyfle i'ch ci ymlacio mewn lleoliad moethus, a breuddwydio am redeg ar ôl cathod yn Neuadd Llechwen. Mae croeso i gŵn yn y gwesty gwledig yma, sydd yng nghanol cefn gwlad agored.
Dyma fan agored enfawr sy'n baradwys i gŵn a'u perchnogion. Mae llwybrau hyfryd yn y parc lle mae modd cerdded am filltiroedd hyd at gopaon mynyddoedd cyfagos.
Mae'r caffi yn gwerthu hufen iâ sy'n addas i gŵn - ac mae digon o ddewis i'w perchnogion hefyd!
Mae llynnoedd, parc chwarae, llwybrau beicio, llwybrau cerdded a llawer yn rhagor.

Tafarn fywiog yng nghanol y dref ydy The Lion, sy'n gweini bwyd a diodydd gwych. Mae achlysuron comedi, cwisiau a cherddoriaeth fyw yn cael eu cynnal yma. Mae posibilrwydd y byddwch chi'n clywed lleisiau pwerus Côr Meibion Treorci wrth ymweld â'r dafarn. Mae'r côr yn dueddol o alw draw ar ôl ymarfer yn y capel cyfagos, Capel Bethlehem.
Caiff cŵn cymdeithasol fwynhau yn yr ardal eistedd awyr agored.
Dyma fan agored anhygoel arall sy'n llawn pethau i'w gwneud, eu gweld - a'u harogli! Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n cynnwys llwybrau beicio trwy'r mynyddoedd, trac pwmpio a chwrs beiciau ar gyfer plant bach. Mae modd llogi beiciau a manteisio ar wasanaeth teithio i fyny'r llwybrau mynydd hefyd.
Mae digonedd o lwybrau cerdded - beth am gerdded ger y llyn a mwynhau'r byd natur? Neu i'r rhai sy'n dymuno cynyddu curiad y galon, beth am fynd am dro yn uchel yn y mynyddoedd? Bydd digon o ymarfer corff i'r cŵn a'u perchnogion. Mae croeso mawr i gŵn yn Nghaffi Cwtsh – mae hufen iâ sy'n addas i gŵn yn y rhewgell bob tro!
Caiff cŵn aros yn y llety ar y safle ac ar y maes carafanau.
Tafarn sydd wedi ennill gwobrau ydy The Bunch of Grapes, ac mae croeso mawr i gŵn yma. Os oes ci gyda chi, ac rydych chi'n hoff iawn o fwyd ffres lleol, dyma'r lle i chi.
Ar gopa'r Rhondda Fawr, dyma westy mewn lleoliad delfrydol i fwynhau antur gyda'ch cŵn.
O'r gwesty, mae modd mynd â'ch ci am dro trwy'r goedwig hynafol ac yn uchel i fyny'r mynyddoedd, gan gynnwys Pen-pych a Rhigos.
Mae ystod o ystafelloedd, man storio beiciau a bwyd arbennig ar gael o fore gwyn tan nos yma.
Oes gyda chi gi sy'n hoffi gwenu o flaen y camera? Dyma siop goffi berffaith i dynnu lluniau. Mae diodydd, teisennau a byrbrydau blasus ar gael yma, ac mae gan y lleoliad wal flodau, arwyddion neon a llawer yn rhagor.
Beth am adael i'r cŵn ddewis a ydyn nhw eisiau bwyta tu mewn neu tu allan yn Coffi HQ?

Tafarn Gwaelod-y-garth
Yng ngardd y dafarn nodedig yma, mae tap cwrw (dŵr) ar gael ac mae croeso i gŵn aros dros nos yn rhai o'r ystafelloedd.
Mae Tafarn Gwaelod-y-garth wrth waelod Mynydd y Garth (mae taith gerdded i fyny'r mynydd gyda ni os oes diddordeb gyda chi) ym mhentref Ffynnon Taf, sef lleoliad ffilm Hugh Grant 'The Englishman Who Went Up A Hill And Came Down A Mountain'. Yn ôl y sôn, siop DIY y pentref oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer siop Arkwright yn 'Open All Hours'.
Lakeside Cafe
Ar ddiwrnod braf (neu hyd yn oed diwrnod sych), does dim byd yn well nag eistedd ar y decin yn Lakeside Café Bar a mwynhau coffi, slush neu hyd yn oed gwydraid o win a gwylio'r byd yn mynd heibio.
Caffi brecwast a brecinio
Caffi brecwast a brecinio sy'n gyfeillgar i gŵn ac sy'n gweini bwyd blasus dros ben!
Clwb Coffi
Mae Clwb Coffi yn siop goffi arbenigol sydd ar genhadaeth i ddod â phobl Cwm Rhondda ynghyd yn ei siop yng nghanol tref hanesyddol Tonypandy.
Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad wedi'i achredu gan sefydliad Croeso Cymru, sy'n gyfeillgar i gŵn, ac mae croeso bob amser i chi ddod â'ch ci. Mae modd i gŵn fwynhau archwilio'r arddangosfeydd awyr agored ar y llawr gwaelod a galw heibio i Caffè Bracchi, lle bydd dŵr yfed ffres ar gael iddyn nhw.

