Bunch of Grapes
Mae tafarn 'The Bunch of Grapes' yn dafarn hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i ganol y 1800au, ar un o’r ychydig rannau sydd wedi goroesi o Gamlas Sir Forgannwg gerllaw sy’n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd.
Mae'r dafarn wedi'i lleoli wrth ymyl canol y dref. Dyma dafarn 'gastropub' brysur a phoblogaidd gyda bwydlen sy'n cynnwys dewisiadau o ffynonellau lleol sydd wedi'u paratoi'n ffres ar y safle, gan gynnwys bara wedi'i bobi’n ddyddiol gan ddefnyddio grawn o'r bragdy. Mae achlysuron bwyd a diod arbennig yn digwydd trwy gydol y flwyddyn, fel nosweithiau caws Cymreig a nosweithiau Coginio dros y Tân, yn ogystal ag achlysuron dathlu fel Diwrnod Annibyniaeth UDA a Cherddoriaeth Fyw a Pizza! Mae’n cael ei chynnwys yn gyson yng nghanllaw'r 'Good Food Guide' ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei bwydlen amrywiol a chreadigol.
Mae'r bar hefyd yn enwog am ei amrywiaeth unigryw o gwrw crefft a seidr gwadd gyda naw casgen a phum barilan ar gael bob amser. Mae hyn yn cynnwys ei ystod ei hun o gwrw crefft arobryn, CWRW OTLEY, o'i ficrofragdy ar y safle - dyma etifeddiaeth y Perchennog a'r Prif Fragwr, Nick Otley, o'i gwmni gwreiddiol arobryn, OTLEY BREWING COMPANY. Mae 'Tap Take over' yn digwydd yn rheolaidd, lle caiff Bragwyr Gwadd o bob rhan o Dde Cymru ddod i gwrdd â chwsmeriaid a rhannu eu cwrw crefft eu hunain.
Mae dewis o fannau cyfforddus i eistedd ar gael yn y bar mawr a chlyd, cegin cynllun agored lle caiff bwyd ei baratoi wrth i westeion ymlacio yn y bwyty, ardal awyr agored a chwrt ger y microfragdy.
Dyma amseroedd agor y bar:
Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: 12:00 tan 23:00
Dydd Sul: 12:00 tan 22:00
Bwyd yn cael ei weini:
Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: 12:00 tan 20:30
Dydd Sul: 12:00 tan 15:30
Ble: Pontypridd, CF374DA
Math: Restaurant, Bar, Take-away