Cylchol Pontypridd
O'r llwybr hwn dros y bryniau cewch olygfeydd hyfryd o'r dref, yn ogystal â cherdded drwy goedydd hynafol, tir comin agored, rhostir, tir ffermio a ffridd.
Mae'n esgyn wedyn i fannau uchel sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws y cymoedd tua'r môr a thua Bannau Brycheiniog. Ar lwybrau troed cefn gwlad a lonydd gwledig tawel.
Mae cyfres o arwyddion ar hyd y llwybr. Gellwch ei ddilyn yn y ddau gyfeiriad, neu gychwyn o unrhyw fan ar hyd y llwybr.
Tua 12 milltir (18km) yw hyd y llwybr cyfan. Gellwch dreulio diwrnod cyfan yn cerdded ar hyd-ddo. Mae'n well i chi wisgo esgidiau cerdded, neu esgidiau cryf o leiaf.
Mae modd cerdded teithiau byrrach ar hyd rhannau o'r Llwybr Cerdded Cylchol. Gellwch gychwyn o Drefforest, Trehafod neu ganol y dref.
Allwedd
- Addasrwydd: Cerddwyr
- Pellter: Tua 12 milltir / 18 km
- Graddfa: Cymedrol/Anodd (pellter hir)
- Tirwedd: Amrywiol
- Hyd y daith: Tua 8 awr i gwblhau'r daith (mae modd rhannu'r daith yn bedair)
- Camfeydd/Sticlau: Oes
Lawrlwytho:
Taith Gerdded Gylchol Pontypridd (dogfen maint A3)