Skip to main content

Taith gerdded i’r teulu cyfan trwy Barc hardd Aberdâr

Ymunwch â ni ar gylchdaith 4 cilomedr o hyd o amgylch Parc hyfryd Aberdâr, sydd tafliad carreg o ganol y dref.

Dyma barc cyhoeddus cyntaf Cymru, gafodd ei agor dros 150 o flynyddoedd yn ôl.

Byddwch chi'n cerdded heibio'r ffynnon, gafodd ei rhoi'n anrheg i'r dref ym 1911 i nodi Coroni Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary. Mae'r ffynnon yn un o lond llaw yn y byd - mae un arall y tu allan i Westy Raffles yn Singapore.

Ewch o amgylch y caffi a'r llyn cychod Fictoraidd - beth am fynd â chwch draig neu alarch ar y dŵr, neu brynu bwyd ar gyfer yr hwyaid a’r gwyddau.

Cerddwch heibio'r safle seindorf i gyrraedd pen uchaf y parc, lle mae meinciau i ymlacio a mwynhau'r olygfa. Cerddwch i lawr at Gerrig yr Orsedd, gafodd eu gosod ym 1956, pan gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn y parc.

Ble:Aberdare, CF44 7AW

Math:Short walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Aberdare, CF44 7AW

Nodweddion

  • Close to a town centre
  • Food and drink on the way
  • Public transport accessible