Servini's Aberdâr
Dyma gaffi sydd wedi’i hen sefydlu yn Aberdâr gydag ystod eang o brydau a byrbrydau.
Pwy sydd angen glannau'r Canolfor pan mae gyda chi ddylanwad Eidalaidd yn Aberdâr yn gweini bwyd blasus, gan gynnwys brecwastau, prif brydau, byrgyrs, pitsas, bocsys salad, omledau, paninis a llawer yn rhagor!
Cafodd Servini's ei agor gan Marcello Servini bron i 100 mlynedd yn ôl. Mudodd Marcello i dde Cymru o'r Eidal i weithio fel glöwr ac fe wnaeth arbed ei gyflog i brynu'r caffi, a gynhaliodd ar ôl gweithio shifft yn y pwll glo.
Mae ei deulu, sydd nawr yn cynnal y caffi, yn effro i'r ffaith mai pobl wych a bwyd blasus sydd wedi galluogi Servini's i fod yn llwyddiannus.
Ble: Aberdâr , CF44 7DP
Math: Take-away, Café