Skip to main content

Janet's Authentic Northern Chinese Cuisine

Mae Janet's wedi’i guddio mewn cornel yn Ardal y Farchnad yn nhref hanesyddol Pontypridd (sydd ar fin symud i adeilad mwy cyfagos). Dyma fwyty bach sydd ag enw da iawn.

Mae wedi ennill amrywiaeth o wobrau cenedlaethol am ei brydau gwreiddiol wedi’u cyflwyno’n hyfryd a blasus ac mae wedi'i enwi'n un o fwytai gorau Cymru.

Mae'r dewis yn helaeth, gan ddod â phrydau traddodiadol a bwyd stryd o Tsieina, Korea a'r Dwyrain Pell ehangach ynghyd â phrydau reis, nwdls a swshi, yn ogystal â phwdinau a llawer yn rhagor.

Ble: Pontypridd, CF37 2ST

Math: Restaurant, Take-away

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Food on the go (Sandwiches, deli, fish & chips etc.)
  • Ice-cream and desserts
  • Restaurant