Siop 'Teyrnas y Grogiaid'
Oeddech chi’n gwybod bod yna le ger Pontypridd lle mae modd i chi “weld” Gareth Bale, Christiano Ronaldo, Freddy Mercury a’r Beatles?!
Mae Siop Teyrnas y Grogiaid yn bendant yn rywle unigryw, sy'n disgrifio'i hun fel ffatri a siop geramig, yn ogystal ag amgueddfa rygbi Cymru.
Mae'r Grogiaid ceramig - sy'n dwyn yr enw gan eu bod nhw wedi'u creu o glai grog - yn sefyll o dan 10 modfedd ac wedi'u modelu ar sêr y byd chwaraeon ac enwogion. Mae yna hefyd ffigurau hanesyddol o'r diwydiant glo yng Nghymru ac, wrth gwrs, defaid a dreigiau.
Cafodd y Grogiaid eu creu gan y diweddar John Hughes OBE yn y 1960au ac mae ei fab, Richard, yn parhau â'r traddodiad hyd heddiw.
Mae argraffiadau cyfyngedig y Grogiaid yn cael eu harddangos a'u gwerthu yng nghanol pethau cofiadwy ym myd chwaraeon, gan gynnwys crysau ac esgidiau o’r gemau, sydd wedi'u rhoddi gan y sawl sydd wedi'u hanfarwoli ar ffurf Grog.
Cewch hefyd weld hanes y Grogiaid a phori drwy’r amrywiaeth o anrhegion thema Gymreig, fel mygiau, addurniadau a rhagor, yn ystod eich ymweliad.
Maen nhw'n dweud nad ydych chi'n enwog yng Nghymru nes bod Grog wedi'i greu ar eich ffurf chi!
Ble: Treforest, CF37 1BH
Math: Attractions