Cwympwch mewn cariad â Rhondda Cynon Taf ar Ddydd Santes Dwynwen eleni.
Cwympwch mewn cariad â Rhondda Cynon Taf ar Ddydd Santes Dwynwen eleni. Dyma rai o'r lleoedd gorau i fwynhau pryd o fwyd, diod, antur neu gwtsh!
Cwympwch mewn Cariad gyda Rhondda Cynon Taf ar Ddydd Santes Dwynwen
Dathlwch Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Nawddsant Cariadon Cymru yw Santes Dwynwen, ac roedd hi'n dywysoges a oedd yn byw yn y Bannau Brycheiniog. Dysgwch y cyfan am hanes Santes Dwynwen yma. Mae Rhondda Cynon Taf yn gyrchfan berffaith ar gyfer gwyliau rhamantus yng Nghymru. O deithiau cerdded hardd i leoedd bwyta clyd - dyma'ch canllaw i'r lleoedd rhamantus gorau yn Ne Cymru.
Ewch yn ôl mewn amser yn Nhaith Pyllau Glo Cymru
Treuliwch ddiwrnod unigryw gyda'ch gilydd yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - dyma un o'r atyniadau treftadaeth mwyaf diddorol yn Ne Cymru. Cewch ddysgu am y stori gariad anhygoel rhwng glowyr, eu cymunedau a'u teuluoedd, a chael gweld y ffrog briodas o'r hen ddyddiau sy'n cael ei harddangos. Ar ôl eich taith, beth am fwynhau rhywbeth melys neu gacen gyda’ch gilydd yng Nghaffi Bracchi?
Anrhegion Cymreig i ddangos eich cariad
Ydych chi'n chwilio am rywbeth ystyrlon? Dewiswch lwy garu o'r siop anrhegion yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, neu ewch i bori'r trysorau traddodiadol yn siop Blas ar Gymru ym marchnad Aberdâr. Dyma anrhegion Cymreig unigryw i gyplau, sy'n ffordd berffaith o ddweud "dwi'n dy garu di".
Teithiau Cerdded Rhamantus a Golygfeydd Godidog
Ewch am dro yn ein tirweddau trawiadol - does dim byd yn fwy rhamantus na hyn! Gwisgwch ddillad cynnes ac ewch i grwydro un o'n teithiau cerdded rhamantus hardd yn Rhondda Cynon Taf gyda'ch cariad.
Mae ein holl deithiau cerdded i'w gweld yma.
Swatio'n glyd gyda bwyd a diod gwych
Ar ôl i chi fod ar antur, swatiwch yn glyd yn un o'n bwytai neu gaffis rhamantus.
Dyma rai syniadau i'ch temtio chi:
- Gwesty a Bistro'r Cardiff Arms - Lle braf i gael pryd o fwyd rhamantus. Dewiswch o'r fwydlen helaeth - mae'r rysáit perffaith ar gyfer rhamant yng Ngwesty a Bistro’r Cardiff Arms!
- Tispy Owl - Beth am greu argraff ar eich noson allan drwy gael coctel yn y Tipsy Owl? Cafodd ei bleidleisio'n Far Gorau Cymru yn 2025 - ac mae'n hawdd deall pam.
- La Luna - Dyma le perffaith i gyplau gael noson allan yng Nghymru, gyda choctel a phryd bwyd blasus i ddathlu'ch cariad. Mae La Luna yn adnabyddus am eu bwrdd stêc chateaubriand anhygoel.
Noson o dan y sêr
Gwnewch hi'n noson i'w chofio! Arhoswch dros nos yn Fernhill Valley Farm lle cewch ymlacio o dan y sêr mewn pod glampio gyda'ch pwll tân eich hun. Dyma un o'r lleoedd mwyaf hudol gyda phwll thân i aros ynddo yng Nghymru. Neu ewch i aros yn y bocs ceffylau clyd sydd wedi'i addasu'n arbennig, Hetty the Horsebox yn Bird's Farm, sydd wrth odre Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dewch i ddarganfod cariad drwy hanes
Mae stori Santes Dwynwen yn ymwneud â chariad ac ymroddiad, ac mae Rhondda Cynon Taf yn llawn ei chwedlau a'i threftadaeth ei hun. Dewch i grwydro'n safleoedd hanesyddol, lle cewch eich swyno gan hanesion y gorffennol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Caru Rhondda Cynon Taf Drwy Gydol y Flwyddyn
Dim ond y dechrau yw Santes Dwynwen. Mae Rhondda Cynon Taf yn lle i gwympo mewn cariad - dro ar ôl tro - drwy gydol y flwyddyn. P'un a ydych chi'n trefnu gwyliau rhamantus yn Rhondda Cynon Taf neu'n chwilio am bethau i'w gwneud yn Ne Cymru sy’i gyplau, mae gyda ni rywbeth at ddant pawb. I fwrw golwg ar yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan drwy glicio yma.
