Skip to main content

Gwych ar gyfer Grwpiau!

Mae Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys rhai o'r golygfeydd mwyaf mawreddog yn y DU, yn daith o ddim ond 20 munud mewn car o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Mae Rhondda Cynon Taf yn agos at yr M4 ac mae'n cynnig atyniadau unigryw ar gyfer grwpiau gan.

So much to explore

Mae'r rhain yn cynnwys Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, sesiwn blasu wisgi a thaith y tu ôl i'r llenni yn Nistyllfa Wisgi Penderyn, Profiad y Bathdy Brenhinol, ac Amgueddfa Crochendy unigryw a hanesyddol Nantgarw.

A Welsh Coal Mining Experience

Mae Rhondda Cynon Taf yn ddim ond 20 munud mewn car o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n hawdd cyrraedd ein golygfeydd mawreddog a'n hatyniadau.

Does dim tollau ar Bont Hafren bellach. Mae hyn yn golygu does dim esgus dros beidio dod am wyliau bach gwych yn Ne Cymru!

Mae Llundain, Birmingham a Rhydychen yn agosach na rydych chi'n meddwl - mae hi'n daith o ddwy i dair awr mewn car o'r dinasoedd yma i gyrraedd ein bryniau a'n dyffrynoedd deniadol.

Rydyn ni dim ond yn awr o daith mewn car o Fryste neu Gaerloyw.

Os ydych chi'n dod o ymhellach i ffwrdd, mae'n hawdd cyrraedd Rhondda Cynon Taf o'r M4 (cyffordd 32, 34 a 35), a'r A470 a'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd).

Penpych Mountain. PIcture by Lee Williams

Sut i dreulio diwrnod yn Rhondda Cynon Taf

Arian, aur du a hufen iâ... ydy'r rhain yn ennyn eich diddordeb? Cymerwch olwg ar ddiwrnod allan yn Rhondda Cynon Taf.

Sut i dreulio diwrnod yn Rhondda Cynon Taf

From the Bwlch

Aros dros nos? Dyma rai syniadau

Mae ein rhaglen ddeuddydd yn cynnwys wisgi a gwin sydd wedi ennill gwobrau - ydych chi wedi eich temtio?

Rhagor o wybodaeth

nantgarw landing