Blas ar Gymru
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i sawl trysor gwirioneddol i chi eu mwynhau a'u harchwilio.
Amgueddfa Pontypridd
Mae Amgueddfa Pontypridd yn sefyll ar lan Afon Taf, yn agos at yr Hen Bont eiconig.
Mae modd i chi ddysgu am hanes yr Hen Bont yn yr amgueddfa, sydd wedi'i lleoli mewn hen gapel. Oeddech chi'n gwybod mai dyma oedd y bont fwa sengl hiraf yn y byd ar un adeg?
Mae llawer o drysorau wedi'u cuddio yma, gan gynnwys eitemau yn perthyn i Evan a James James, y tad a’r mab o Bontypridd a gyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol wrth iddyn nhw gerdded ar dir Parc Coffa Ynysangharad.

Cynon Valley Museum
Mae Amgueddfa Cwm Cynon yn sefyll ar hen safle Gwaith Haearn y Gadlys. Y tu ôl i'r adeilad mae'r pedair ffwrnais wreiddiol sydd, mae'n debyg, â'r cyflwr cadw gorau yn y DU.
Wrth i chi deithio o amgylch yr amgueddfa, rydych chi'n sefyll ar yr hyn a arferai fod yn dai cast, lle byddai tawdd gwyn-poeth yn cael ei dywallt.
Helpodd y diwydiant haearn i osod Aberdâr a Chwm Cynon ehangach ar y map, ochr yn ochr â'i hanes diwylliannol cyfoethog a bywiog.

Clwb Y Bont
Y bar eiconig yma yw’r lle i fod ym Mhontypridd, bydd cerddoriaeth fyw, cwisiau a rhaglen unigryw o achlysuron yno drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Mae'r gyrchfan arbennig yma ar Stryd y Taf dafliad carreg o fynedfa'r Maes, ac mae'r staff yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i fwynhau adloniant anhygoel, diodydd, comedi, dathliadau a rhagor.

The Grogg Shop
Did you know there is a place near Pontypridd where you can “see” Gareth Bale, Cristiano Ronaldo, Freddy Mercury and the Beatles?!
The Grogg Shop is definitely a unique visit, hailing itself as a ceramics factory and shop, plus Welsh rugby museum.

Distyllfa Wisgi Penderyn
Mae pentref bychan Penderyn, yng ngogledd Rhondda Cynon Taf, yn gartref i rywbeth annisgwyl.
Mae’r dŵr pur sy’n llifo o’r mynyddoedd nid yn unig yn creu’r rhaeadrau cyfagos ysblennydd, ond caiff ei defnyddio hefyd i greu un o wisgi gorau’r byd.
Distyllfa Wisgi Penderyn oedd y gyntaf o'i fath yng Nghymru ac fe gafodd ei hagor gan aelod o'r teulu brenhinol. Erbyn heddiw, mae modd i westeion fwynhau taith hynod ddiddorol ac unigryw y tu ôl i'r llen, i weld sut mae'r wisgi blasus yn cael ei greu.

A Welsh Coal Mining Experience at Rhondda Heritage Park Museum
Dewch i gwrdd â’r dynion oedd yn gweithio ym mhyllau glo peryglus Cwm Rhondda pan oedden nhw’n fechgyn a gadewch iddyn nhw rannu'r stori ryngwladol hynod ddiddorol a ddechreuodd yma ar garreg ein drws.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i adeiladu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr. Mae nifer o weithfeydd gwreiddiol y pwll yn dal yn eu lle, gan gynnwys y corn simnai enfawr sy'n denu'r llygad.
Ymunwch â chyn-lowyr wrth iddyn nhw fynd â chi o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Y stop cyntaf yw'r ystafell lampau, lle cewch chi'ch helmed cyn dechrau'r antur.

Ar Ben Y Byd
Mae Ar Ben y Byd yn Dŷ Coffi, sy'n rhoi hwb i’r hen gymuned lofaol yma gyda diodydd poeth blasus, cyfleoedd i siopa’n gynaliadwy a llawer yn rhagor.

The Welsh Cheese Company
Mae The Welsh Cheese Company yn Nhrefforest yn stocio dros 70 o'r cawsiau Cymreig gorau. Prynwch gaws, anrhegion a mwy o'r siop neu gofrestru i fod yn rhan o'r clwb caws a chael danteithion dewisol wedi'u hanfon i'ch cartref bob mis

Blas ar Gymru
Mae Blas Ar Gymru wedi'i leoli ym Marchnad Aberdâr - lle y cafodd yr Eisteddfod fodern gyntaf ei gynnal yn 1861. Mae'n emporiwm o anrhegion a chrefftau, yn ogystal â chynnyrch lleol fel mêl, caws, jam, siytni, craceri, coffi a llawer yn rhagor. Mae yna rywbeth at ddant pawb a gallwch fwynhau paned yn Helo Coffi y drws nesaf ar ôl eich ymweliad.

The Lion
Mae tafarn The Lion wedi'i lleoli ar Stryd Fawr Treorci, sydd wedi'i henwi yn stryd fawr orau’r DU diolch i'r amrywiaeth o siopau annibynnol, cynnyrch anhygoel a chroeso cynnes sydd yno. Cafodd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ei lansio yma ac mae'n lle gwych i fwyta, yfed a dathlu. Yn aml, bydd Côr Meibion Treorci yn galw i mewn am gân fach yn dilyn eu hymarferion lleol.

Yr Hen Lyfrgell
Mae Yr Hen Lyfrgell yn siop goffi ac anrhegion Cymraeg yn y Porth, sydd gwpl o orsafoedd i ffwrdd ar y trên.

Storyville Books
Mae Storyville Books dafliad carreg o'r Maes ac yn gwerthu amrywiaeth eang o Lyfrau Cymraeg, yn ogystal â bywgraffiadau rhai o enwogion Cymru - a llawer yn rhagor.

Mabby Brewing Company
Mae Mabby Brewing Company yn fragdy bach sydd wedi'i leoli yn Otley Brewpub and Kitchen - mwynhewch y cwrw yn y bwyty!

CWRW
Beers and Ale made at the CWRW Otley microbrewery can be enjoyed at the award-winning Bunch of Grapes pub.

Gwynt Y Ddraig
Mae Gwynt Y Ddraig yn seidr Cymreig sydd nawr yn cael ei werthu mewn saith gwlad ledled y byd. Cadwch lygad allan am y seidr adnabyddus yma mewn tafarn leol neu ewch i'r siop ar-lei

Bragdy Twt Lol
Mae Bragdy Twt Lol yn cynnig sawl cwrw adnabyddus sydd wedi'u creu â llaw a'u hogi'n berffaith - ac maen nhw wedi ennill gwobrau. Mae’r cwmni yn ymestyn oriau agor ei Far a'i Fragdy ar gyfer yr Eisteddfod, felly bydd modd i chi flasu ei gwrw ar y safle neu brynu rhywbeth i fynd gartref gyda chi. Rhagor o wybodaeth.
