Parc Aberdâr i Barc Gwledig Cwm Dâr
Bydd y daith 9km o hyd yma'n mynd â chi o Barc Aberdâr yr holl ffordd ar hyd yr Afon Dâr i fyny at Barc Gwledig Cwm Dâr.
Mae modd ichi gyfuno'r daith yma â thaith gerdded Parc Aberdâr yn gyntaf os hoffech chi.
Ewch tua'r mynyddoedd ar hyd y llwybr syth at Barc Gwledig Cwm Dâr, cyn mynd ar hyd tir oedd unwaith yn rhan o Lofa'r Bwllfa cyn aros i edmygu'r rhaeadrau bychain a'r sgydau ar hyd y daith.
Wrth groesi pontydd a mynd heibio llynnoedd, mae digon o lecynnau i edmygu'r olygfa, gan gynnwys clogwyn trawiadol Craig y Darren.
Wedi ichi gyrraedd y parc, mae digonedd o deithiau cerdded pellach i'w darganfod - gan gynnwys taith ymlaciol o amgylch y llynnoedd neu lwybrau sy'n arwain i fyny at Fynyddoedd Penrhiw-lech a'r Bwlffa.