Skip to main content

Harri the Horsebox

Mwynhewch wyliau glampio unigryw wrth odre Bannau Brycheiniog yn Harri the Horsebox!

Mae'r llety yma a fu gynt yn gerbyd cludo ceffylau, yn dwt ond yn berffaith.

Mae'n cysgu pedwar, gyda gwely uwchben y caban a gwely soffa yn ardal y lolfa.

Mae ganddo gegin, teledu clyfar a llosgwr coed - gallwch chi hyd yn oed ychwanegu twba twym ac ymlacio o dan y sêr ar ôl diwrnod yn crwydro.

Mae Harri the Horsebox yn un o chwe llety ar safle enfawr Bird's Farm.

Ar y tir hefyd mae'r ffermdy’r Bird’s House, Tŷ Aderyn, The Stables a Hetty a Dolly, y naill yn hen gerbyd cludo ceffylau a'r llall yn hen fws deulawr, y ddau bellach wedi'u trawsnewid yn llety cyfforddus.

Mae Harri the Horsebox dan ofal Air BnB. 

Ble: Hirwaun, CF44 0PJ

Math: Glamping, Caravan/campervan/motorhome, Self-catering rental

Sgôr: No rating

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Bike Storage
  • Dogs Welcome
  • Free parking
  • Great for cyclists
  • Great for families
  • Great for walkers
  • Wi-Fi