Cocos Coffee and Candles
Aberdâr yw cartref un o’r caffis a’r siopau anrhegion mwyaf hardd!
Mae Coco's Coffee and Candles yn cynnig amgylchedd modern a chlyd, diodydd poeth ac oer heb eu hail a danteithion melys sy'n tynnu dŵr o'r dannedd.
Mae’r caffi hefyd yn gartref i’r Coco Candle Company sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r cynnyrch hefyd wedi ymddangos yng nghylchgrawn Vogue! Felly porwch trwy'r cynnyrch ar ôl i chi fwynhau'ch latte rhew, siocled poeth gyda hufen, neu croissant.
Mae'r cwmni hefyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd drwy gynnig dewisiadau sy'n hyrwyddo ailddefnyddio ac ail-lenwi (ar gyfer y diodydd poeth a'r canwyllau!).
Ble: Aberdâr, CF44 7AT
Math: Desserts, Café