Skip to main content

Mae cartref pob un o'r uchod yn RCT

Bydd llawer o bobl wedi clywed am byllau glo Cwm Rhondda, Syr Tom Jones a gafodd ei eni ym Mhontypridd a'r Anthem Genedlaethol.

Pen-pych

We are home to one of just two table-top mountains in Europe. Penpych is amazing

penpych leewilliams

Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty

Dyma Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae tri phwll twym yn yr awyr agored, teras, man bwyta awyr agored a llawer yn rhagor. 

lido banner image

Côr y Cewri yn y Cymoedd?

Mae'r Maen Chwyf ar y mynydd uwchben Pontypridd ac roedd yn fan ymgynnull ar gyfer beirdd a phobl ecsentrig. Mae modd cyrraedd y meini yn rhan o Lwybr Cylchol Pontypridd. Dyma daith gerdded hir a heriol, ond mae modd ei chwblhau fesul rhan.

Sunrise - pontypridd - Rocking Stones - Pontypridd Common-5-2

Profiad y Bathdy Brenhinol

Dros 1,000 o flynyddoedd o drysorau a chyfrinachau. Symudodd y Bathdy Brenhinol o Lundain i Lantrisant dros 50 o flynyddoedd yn ôl ac mae bellach yn gwneud yr holl arian sy'n cael ei wario yn y DU – yn ogystal ag arian ar gyfer dros 40 o wledydd gwahanol.

Mae'r Bathdy Brenhinol hefyd yn gwneud medalau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Ewch y tu ôl i'r llenni yn yr atyniad diddorol yma. Bathwch eich darn o arian eich hun a chofiwch alw yn y siop anrhegion.

Mint banner2

Lanelay Hall

Maldives? Mae'r Sba Gardd hyfryd yn Neuadd Lanelay yn Nhonysguboriau yn cynnig triniaethau moethus, pwll nofio i ymlacio ynddo a chyfle i ddianc rhag bywyd prysur bob dydd. Mae modd aros yn y gwesty, sydd ag ystafelloedd gwely ffasiynol â dyluniad unigryw.

laneley6

Treorci - Strydoedd Mawr Annibynnol Gorau

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i un o'r strydoedd mawr annibynnol gorau yn y DU! Enillodd Treorci wobr fawreddog yn 2019, diolch i'w chynnig dengar, sy'n cynnwys siopau hufen iâ, siopau anrhegion annibynnol, siopau losin, siop cwrw crefft annibynnol.

Treorchy-5

Ydych chi'n hoffi byd natur

Ydych chi'n hoffi byd natur?

Rydych chi yn y lle iawn! Dyma Gwm-parc yng Nghwm Rhondda..

wild swim cwmparc Carly Davies

Bwytwch yn eich pod prefiat eich hun ar dir plasty hanesyddol

Bwytwch yn eich pod prefiat eich hun ar dir plasty hanesyddol.

Mae Gwesty a Chlwb Iechyd Miskin Manor yn hyfryd – gyda phodiau bwyta i'w gweld ymhlith y blodau a nentydd.

outdoorgardensblog

Mynydd Bwlch

Mwynhewch fynydd Bwlch wrth iddi dywyllu (mae llawer o lwybrau cerdded a beiciau i'w mwynhau wrth i chi aros i'r haul fachlud).

From the Bwlch

Gronfa Ddŵr Maerdy

Ydych chi'n hoffi natur a hanes?

Beth am fynd i Gronfa Ddŵr Maerdy?

Byddwch chi'n dod o hyd i adfeilion Castell Nos, a gafodd ei adeiladu gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn, a oedd yn ddisgynyddion Iestyn ap Gwrgant (Brenin Cymreig olaf Morgannwg).

Parhaodd y castell, oedd i'w weld uwchben Cwm Rhondda, i fod dan reolaeth Cymru am gyfnod hir ar ôl i'r Normaniaid orchfygu tir mwy ffrwythlon i'r de.

Maerdy Res in Winter Pic Anthony France

Goedwigaeth Llanwynno

Mae pawb yn hoffi dirgelwch a chwedlau.

Mae gan Goedwigaeth Llanwynno lawer o lwybrau cerdded ac mae modd crwydro Cronfa Ddŵr Clydach a rhaeadrau Pistell Golau.

Roedd yr ardal yma'n arfer bod yn fan hyfforddi dyn cyflymaf y byd – Guto Nyth Brân.

Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob Nos Galan er mwyn cadw chwedl y rhedwr yn fyw.

Clydach Reservoir in Llanwonno. Picture by Martin Agg.

Hen grochendy

Hen grochendy.

Nantgarw yw crochendy olaf y 19eg ganrif yn y DU ac mae'n hardd! Ystyriwyd ei ddarnau o waith fel rhai o'r goreuon yn y byd ac roedden nhw i'w gweld ar fyrddau bwyd boneddigion a boneddigesau.

Yn ogystal â gweithio i warchod ei waddol a pharhau i gynhyrchu, mae Nantgarw bellach yn gartref i arlunwyr modern ac mae wedi troi rhai darnau o'i waith gwreiddiol yn gemwaith hardd.

The original conical pottery  kiln at Nantgarw China Works Museum, surrounded by flowers and trees.