Cynigion Arbennig gan Atyniadau ar gyfer Deiliaid Tocynnau’r Eisteddfod
Dewch i ddysgu am ein hanes, neu grwydro ar hyd ein llwybrau i fwynhau golygfeydd godidog. Mae gyda ni hefyd lu o atyniadau teulu. Rydyn ni wedi cydweithio atyniadau gorau'r ardal i gynnig mynediad arbennig a phrisiau.
Mae'r Lido wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Caiff deiliaid tocynnau'r Eisteddfod fynediad arbennig i'r tri phwll cynnes a sesiynau llawn hwyl i'r teulu yn ystod yr wythnos.

Taith Pyllau Glo Cymru yw’r unig atyniad o’i fath lle mae glowyr go iawn yn eich tywys chi ar daith i grombil y ddaear. Roedd y dynion yma'n gweithio yn y pyllau glo pan oedden nhw'n iau, felly dyma gyfle gwych i glywed am eu profiadau personol yn yr atyniad arobryn yma. DEFNYDDIWCH EIN COD ARBENNIG AR GYFER YR Eisteddfod2024 I GAEL GOSTYNGIAD O 50% ODDI AR EICH TAITH

Mae atyniad Zip World Tower wedi’i adeiladu ar safle hen Lofa’r Tŵr ac mae’n gartref i Phoenix, y llinell wib â sedd gyflymaf yn y byd. Yn ogystal â hynny, mae'r Tower Flyer yn rhoi cyfle i ymwelwyr iau gael blas ar yr antur, ac mae rhywbeth at ddant pawb yn ardal weithgareddau eang Tower Climber. Dewch i'n gweld ni ym Mhentref RhCT yn yr Eisteddfod i hawlio cod a manteisio ar ostyngiad o 20%'

Profiad y Bathdy Brenhinol yw’r unig atyniad o’i fath. Mae'n adrodd hanes diddorol y bathdy, sydd wedi bod yn creu darnau arian ers mil o flynyddoedd. Dewch i ddysgu rhagor am ddarnau arian, a rhoi cynnig ar greu eich darn eich hun. Mae modd bwrw golwg ar arian cyfred a medalau o bob cwr o'r byd. Mae'n brofiad difyr i bawb! DEFNYDDIWCH EIN COD ARBENNIG AR GYFER YR EISTEDDFOD I GAEL GOSTYNGIAD O 20%. RCTEisteddfod

Mae Distyllfa Wisgi Penderyn yn cynnig sesiynau blasu a theithiau i ymwelwyr, gan roi cyfle i chi ddysgu rhagor am y gwaith o greu'r wisgi byd-enwog yma. Yn ogystal â bwrw golwg ar y broses, cewch chi hefyd gyfle i flasu ein wisgi a'n gwirodydd eraill. DEFNYDDIWCH EIN COD ARBENNIG AR GYFER YR EISTEDDFOD I GAEL GOSTYNGIAD O 25% ODDI AR EICH TAITH. EISTEDDFODRCT24T
