Taith Gerdded Isaf Coetir Pen-pych
Mae'r daith gerdded hardd 3 cilomedr o hyd yn mynd â chi drwy'r coetiroedd sy'n amgylchynu gwaelod mynydd godidog Pen-pych.
Mae modd ichi wneud y daith gerdded yma ar ei phen ei hun, neu am antur fwy, ei chyfuno gyda'r daith i gopa Pen-pych am rai o'r golygfeydd gorau yn ne Cymru.
Mae Mam Natur wedi adennill tir a oedd arfer cael ei ddefnyddio ar gyfer cloddio glo. Roedd Cwm Rhondda yn un o'r ardaloedd a gafodd ei chloddio fwyaf dwys yn y byd.
Bellach, mae'n goed, gwyrddni a nentydd, fel byddwch chi'n ei weld ar y daith gerdded yma. Cerddwch drwy goetir, darganfyddwch y rhaeadrau cudd a'r man ymdrochi ym mhwll y tylwyth teg. Ymlaciwch ym myd natur gan geisio gweld yr Hebogiaid Tramor yn esgyn uwchben.