Taith Gerdded Fferm Wynt Gilfach-goch
Mae'r golygfeydd ar y daith gerdded 11 cilomedr o hyd yma'n werth eu gweld er gwaethaf y darnau heriol!
Cerddwch allan o bentref Gilfach-goch i'r dirwedd o'i hamgylch a byddwch chi’n cyrraedd Fferm Wynt Taf-elái, lle mae tyrbinau gwynt sy'n 30 metr o uchder yn sefyll fel cewri uwchlaw'r dirwedd ac yn troi grym natur yn ynni trydanol.
Mwynhewch olygfeydd pellgyrhaeddol hyd at arfordir Bro Morgannwg a dros Fôr Hafren wrth ichi gerdded drwy gaeau a thirweddau ar y daith yma, sy'n rhan o Ffordd y Bryniau sy'n mynd o ardal Gilfach-goch i Gaerffili.