Skip to main content

Taith Gerdded Gylchol Parc y Darren

Ewch ar daith gerdded o amgylch llyn chwedlonol.

Yna, ewch i'r mynyddoedd am olygfeydd syfrdanol o drefi glofaol traddodiadol Maerdy, Pendyrus (Tylorstown) a Blaenllechau.

Fe welwch chi hefyd yr hen domen lo enwog, "Old Smokey", sy'n nodwedd amlwg iawn ar y gorwel am filltiroedd.

Mae'r daith yma'n berffaith ar gyfer teuluoedd a cherddwyr cŵn ac mae digon o leoedd i fynd am bicnic ar hyd y daith, gan gynnwys Pwll Trem y Parc ar ben uchaf y mynydd.

Wrth ichi ddychwelyd i Barc y Darren, beth am fynd am dro o amgylch y llyn heddychlon - Llyn Y Forwyn?

Yn ôl y chwedl, roedd ffermwr lleol wedi mynd â'i geffyl i yfed yn y llyn ble ymddangosodd "Nelferch" o'r dyfroedd ble'r oedd hi'n byw gyda'i gwartheg.

Syrthiodd mewn cariad yn syth bin a gofynnodd iddi ei briodi. Roedden nhw'n byw yn ddedwydd ar y fferm nes iddyn nhw ddadlau un diwrnod. Dychwelodd Nelferch i'r llyn, a welodd neb mohoni fyth eto (ond a yw hynny'n wir?!).

Ar ôl eich taith gerdded, bydd modd ichi grwydro strydoedd prysur Cwm Rhondda Fach.

Mae'r ardal yma'n adnabyddus am ei thai teras bychan sy'n ymddangos fel petaen nhw wedi'u glynu ar ochr y mynydd.

Mae'r un teuluoedd wedi bod yn berchen ar y siopau ers cenedlaethau, ac mae capeli, neuaddau cymuned a chaffis yn parhau ers dyddiau prysur mwyngloddio glo.

 

 

Ble:Glynrhedynog, CF43 4HH

Math:Medium walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Glynrhedynog, CF43 4HH

Nodweddion

  • Close to a town centre
  • Public transport accessible