Taith Gerdded Fferm Wynt Cwm Dâr
Esgynnwch bron i 500 metr uwchlaw Parc Gwledig Cwm Dâr gan fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd rhewlifol gafodd eu ffurfio yn yr Oes Iâ diwethaf.
Mae'r daith gerdded 9 cilomedr o hyd yma'n mynd â chi drwy'r parc ac o amgylch ei llynnoedd, heibio rhesi o fythynnod lle'r oedd y dynion a oedd yn gweithio yng Nglofa’r Bwllfa'n byw gyda'u teuluoedd. Cafodd yr ardal yma ei siapio gan y pwll glo.
Mae'n anodd credu bod y dirwedd hardd yma wedi cael ei siapio gan ein diwydiant glo byd enwog yn ogystal âMam Natur.
Cerddwch ar hyd llwybrau serth er mwyn mwynhau golygfeydd eang dros Aberdâr a Chwm Cynon a mynydd trawiadol Tarren y Bwllfa, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel "Y Darren". Mae’r mynyddoedd yma, gafodd ei ffurfio yn ystod yr Oes Iâ diwethaf, yn ffurfio cefndir Parc Gwledig Cwm Dâr.
Wrth gyrraedd y copa, bydd modd i chi grwydro’r tir o amgylch fferm wynt Pen y Cymoedd, fferm wynt uchaf y Deyrnas Unedig, cyn mynd yn ôl i'r parc, lle mae paned haeddiannol yn aros amdanoch chi yng Nghaffi Cwtsh!