Canolfan Ddringo Spot
Os ydych chi'n chwilio am antur dan do yna ewch i Ganolfan Ddringo Spot. Mae yna ystafell ddringo bwrpasol i blant ac ogof ddringo gyda sialensiau dringo o V0 i V10.
Mae hyfforddwyr cymwys ar y safle bob amser ac mae modd teilwra sesiynau i'ch anghenion unigol chi.
Mae'r caffi ar y safle yn gweini byrbrydau a diodydd poeth ac oer, ac yn cynnig ardal wylio a WiFi. Dyma le gwych i gael antur dan do pan nad yw'r tywydd yn braf.
Ble: Pontypridd, CF37 5SP
Math: Activities