Skip to main content

Parc Gwledig Cwm Clydach

Croeso i baradwys i bobl sy'n caru natur!

Gyda dau lyn, llwybrau i'w harchwilio a llawer o adar i'w gweld, mae'n anodd credu bod y man agored syfrdanol yma wedi'i greu ar safle hen bwll glo.

Mae'r parc gwledig yn enfawr. Mae maes parcio am ddim yng Nghaffi'r Cambrian Lakeside - mwy am hynny yn y man. Cymerwch lwybr gylchol o amgylch y llyn “gwaelod”, rhowch fwyd i'r hwyaid a bwriwch olwg ar y pwll plymio (sy'n cael ei adnabod gan nofwyr gwyllt lleol fel rhewgell Cwm Clydach) a'r rhaeadr.

Neu cewch gerdded heibio’r llyn gwaelod a dilyn y trac i fyny at y llyn “top”. Mae meinciau a mannau pysgota wedi’u lleoli o’i amgylch – cadwch lygad barcud am y Glas y Dorlan sy'n byw yma!

Ewch ymlaen ychydig ymhellach i ddarganfod llyn bach “cyfrinachol” a rhaeadr - mae'r rhain yn ymddangos ar ôl glaw trwm.

O lwybrau’r parc gwledig, mae modd i chi hefyd deithio lan i’r mynyddoedd a'r goedwigaeth o'ch hamgylch am daith gerdded hirach os hoffech chi.

Ym mhob rhan o'r parc gwledig, cewch eich atgoffa o'i orffennol diwydiannol. Ar un adeg, Glofa’r Cambrian oedd y safle yma, ac roedd yn gweithredu rhwng 1872 a 1965. Yma roedd glowyr – rhai ohonyn nhw'n blant – yn gweithio mewn amodau peryglus i helpu i echdynnu hyd at 700 tunnell o lo bob dydd.

Ffrwydrodd y pwll glo yn 1965 gan ladd 31 o lowyr a gadael cymuned Cwm Rhondda mewn sioc - dyma oedd yr ail ffrwydrad o'r fath yn hanes Glofa'r Cambrian.

Mae olwyn a dram glo o'r pwll glo ar y safle o hyd fel cofeb i'r dynion a'r bechgyn oedd yn gweithio yn y pwll. Mae modd i chi hefyd weld marcwyr lle'r oedd siafftiau dwfn y pwll glo. Cewch ddysgu rhagor am ein cyfoeth o hanes glofaol yn Nhaith Pyllau Glo Cymru.

Ar ôl archwilio, ewch yn ôl i'r llyn gwaelod a chael rhywbeth i yfed neu fwyta yng nghaffi Lakeside. Mae dec bwyta awyr agored yma sy'n berffaith ar ddiwrnod braf, ac mae digonedd o seddi dan do hefyd.

Dewiswch o blith saladau, bagéts, cyw iâr a sglodion neu gyri Cymreig. Mae dewis o goffi ar gael ac mae hefyd wedi'i drwyddedu.

 

 

 

Ble: Clydach Vale, CF40 2XX

Math: Attractions, Parks, Walking and Cycling

Cysylltwch â ni

Features-

  • Great for kids
  • Accessible (wheelchair access, changing places, disabled facilities)
  • On-site restaurant/café
  • Great for history lovers
  • Free parking
  • Dogs welcome

Allwedd y map

Rhestr bresennol

Llety

Food & Drink-

Please hold shift while scrolling to zoom in/out on the map