Skip to main content

Taith Gerdded Mynydd Gelliwion

Parc Gwledig Barry Sidings yn Nhrehafod, Pontypridd yw man cychwyn y daith 9.5 km yma.

Mentrwch drwy'r goedwig i gopa Mynydd Gelliwion i fwynhau'r golygfeydd godidog dros Gwm Rhondda.

Mae ambell ddarn serth yn rhan o'r daith ond mae'r llwybr yn glir ac yn boblogaidd ymysg cerddwyr, rhedwyr a beicwyr mynydd. Mae'r llwybr yma'n addas i bobl o bob oed ac yn ddelfrydol i ymgysylltu â byd natur a mwynhau'r golygfeydd godidog.

Mae gan Barc Gwledig Barry Sidings lyn, parc i blant, llwybr beicio a chaffi arobryn sy'n gweini popeth o ysgytlaethau a sglodion i byrgers a danteithion figan. Mae'r caffi hefyd yn agored i gŵn.

Cafodd Parc Gwledig Barry Sidings ei adfer o weddillion diwydiant glo byd enwog y cwm. Mae'r parc wedi'i leoli ar gilffyrdd (sidings) hen reilffordd a oedd yn cludo hyd at filiwn o dunelli o lo o Lofa Lewis Merthyr i ddociau y Barri. Dyma pam taw Barry Sidings yw enw'r parc.

Mae Taith Pyllau Glo De Cymru wedi'i lleoli ar hen safle Glofa Lewis Merthyr ac yno mae modd gweld llawer o'r nodweddion gwreiddiol, yn cynnwys y simnai fawr. Yno mae dynion a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda yn eich tywys chi ar daith ddifyr sy'n dod â'n hanes diwydiannol cyfoethog yn fyw.

 

 

Ble:Trehafod, Cf37 2PE

Math:Long walk

Gweld y llwybr
Gwylio fideo

Cysylltwch â ni

  • Cyfeiriad: Trehafod, Cf37 2PE

Nodweddion

  • Food and drink on the way
  • Public transport accessible