Parc Gwledig Barry Sidings
Beth am newid gêr ar eich diwrnod nesaf allan ym Mharc Gwledig Barry Sidings - lle enfawr yn llawn antur gyda rhywbeth at ddant pawb.
Mae gan Barc Gwledig Barry Sidings drac 'lan a lawr' a llwybrau beicio adnabyddus i'w mwynhau, yn ogystal â llawer o lwybrau gwastad sy'n berffaith ar gyfer dechreuwyr neu'r rhai ar sgwteri.
Mae yna lawer o fannau gwyrdd agored i chwarae pêl-droed neu ffrisbi, cael picnic a mynd ar deithiau cerdded cyffrous i'r mynyddoedd sy'n amgylchynu'r parc gwledig. Ewch i grwydro o amgylch y llynnoedd, cael hoe yn y maes chwarae antur, a cheisio gweld y crëyr glas sy'n byw yma.
Wedi'i drwytho mewn hanes, mae Parc Gwledig Barry Sidings wedi'i adfer o'i orffennol diwydiannol. Mae'r parc ar hen linell reilffordd y tramiau a oedd yn arfer cludo glo o Lofa Lewis Merthyr (Taith Pyllau Glo Cymru bellach) i Fae Caerdydd, ac o’r fan honno i bedwar ban byd. Heddiw, fe gewch chi ddilyn y dreftadaeth yma ar droed i'r parc ar hyd Llwybr Tramffordd Richard Griffiths o Bontypridd.
Bellach yn antur anhygoel i bawb, mae'r parc gwledig hefyd yn gartref i'r siop feiciau arobryn, The Bike Doctor. Mae'r siop yn cynnig gwasanaeth atgyweirio a gwirio, gwerthu rhannau a rhoi cyngor arbenigol ar feiciau mynydd, sy'n golygu bod beicwyr ledled y rhanbarth yn ymddiried ym Mharc Gwledig Barry Sidings yn ganolfan ddibynadwy.
Ar ôl eich taith ar droed neu feic, beth am ail-lenwi’ch tanc yng Nghaffi Parc Gwledig Barry Sidings. Disgwyliwch fyrgyrs enfawr, sglodion llawn dop, ysgytlaeth, a siocled poeth moethus - a'r oll mewn lle sy'n croesawu pawb, o'r glân i'r mwdlyd, ac ar ddwy goes neu bedair!
Cadwch lygad am ei achlysuron – o sioeau ceir clasur i nosweithiau cerddorol, gyda chwrw Tiny Rebel yn goron ar y cyfan!
Oriau agor y maes parcio
1 Ebrill tan 30 Medi: 7.30am – 10pm
1 Hydref tan 31 Mawrth: 8am – 6pm
Ble: Trehafod, CF37 2PE
Math: Attractions, Parks, Walking and Cycling








