Skip to main content

Walking and Cycling

Paratowch am antur

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i ystod eang o lwybrau a theithiau sy'n ddelfrydol i gerddwyr a seiclwyr. Mae digonedd o ddewis rhwng teithiau cerdded byr a chanolig a llwybrau heriol. Mwynhewch lwybrau trwy safleoedd hanesyddol, ar hyd glannau afonydd ac o amgylch llynnoedd a rhagor. Ar gyfer y rheiny sy'n hoff o ddwy olwyn, mae gyda ni lwybrau a thraciau ym mharciau gwledig Cwm Dâr a Barry Sidings. Mae Llwybr Taith Taf a rhwydwaith seiclo yn mynd trwy ganol ein bwrdeistref sirol ac mae digon o lefydd i aros gyda chyfleusterau cadw beiciau'n ddiogel. Mae Rhondda Cynon Taf, (sydd eisoes wedi cynnal camau o daith feicio Taith Prydain) yn cynnal achlysur Reid y Ddraig Cymru dros fynydd y Bwlch bob blwyddyn - mae mynydd y Bwlch ynghyd â'r Rhigos yn adnabyddus am fod yn rhai o'r llwybrau gorau i seiclwyr. Mae pencampwr y Tour De France, Geraint Thomas, yn hyfforddi ar y ddau lwybr.