Skip to main content

Parks

Parciau perffaith i gael picnic, chwarae ac anturio!

O guddfannau prydferth i ffwrdd o brysurdeb y byd, i barciau gwledig mawr dros gannoedd o erwau, mae hen ddigon o lefydd i ymlacio a mwynhau awyr iach yn Rhondda Cynon Taf. Mae parciau Cwm Dâr, Cwm Clydach a Barry Sidings i gyd yn enfawr ac mae ganddyn nhw gaffi, teithiau cerdded a rhagor. Mae Parc Coffa Ynysangharad a Pharc Aberdâr yn llawn hwyl i blant, mannau agored i bobl sy'n hoff o fyd natur a hanes. Mae Lido Cenedlaethol Cymru, pad sblasio Aquadare, parciau antur, caffis a llyn gyda chychod bach i'w cael yn y parciau.