Skip to main content

Contact Us

Hoffai carfan Croeso Rhondda Cynon Taf glywed gennych chi.

Os oes angen cymorth arnoch chi i gynllunio'ch ymweliad, os hoffech chi awgrymiadau ar sut i wneud y gorau o'ch amser yn Rhondda Cynon Taf neu os hoffech chi gael copi o'r Canllaw i Ymwelwyr - cysylltwch â ni!

Mae Croeso Rhondda Cynon Taf hefyd yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol i ddatblygu ein harlwy twristiaeth a’n cynnyrch twristiaeth.

Rydyn ni'n croesawu aelodau newydd i'n Hybiau Twristiaeth prysur, sy'n cynnwys busnesau, atyniadau a sefydliadau lleol sy'n cydweithio i ddenu rhagor o ymwelwyr a sicrhau eu bod nhw'n cael arhosiad hyfryd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i chi hefyd ychwanegu at, neu ddiwygio, eich rhestrau ar ein gwefan.

Cysylltu â ni:

E-bost: ymholiadtwristiaeth@rctcbc.gov.uk

Rhif Ffôn: 01443 424084