Fries Guys at Caffi Lido
Mae Fries Guys, Caffi Lido wedi'i leoli yn adeilad trawiadol Lido Ponty ac mae’n cael ei redeg gan y cwmni adnabyddus, Cleverchefs. Mae'n lle perffaith i ymlacio, cael tamaid i'w fwyta a mwynhau tra ydych chi'n ymweld â Lido Ponty a Pharc Coffa Ynysangharad.
Mae diodydd poeth ac oer a byrbrydau blasus ar gael hefyd ar ôl eich sesiwn nofio yn Lido Ponty neu tra bo'r plant yn chwarae yn ardal Chwarae’r Lido!
Bwytwch i mewn neu ar y teras sy'n edrych dros yr ardal chwarae ar ddiwrnod braf neu ewch â'ch bwyd gyda chi i'w fwynhau yn harddwch Parc Coffa Ynysangharad.
Mae gan Fries Guys, Caffi Lido doiledau tu mewn, mynediad i bobl anabl ac mae’n cynnig opsiynau feganaidd, llysieuol a heb glwten.
Mae croeso i gŵn
Ble: Pontypridd , CF37 4PE
Math: Desserts, Take-away, Café