The Steakcoach
Oes chwant bwyta byrgyr dwbl ar hen fws deulawr?
Peidiwch â cholli cyfle, mwynhewch ystod o fyrgyrs, cŵn poeth, opsiynau brecwast a phwdinau llysieuol a feganaidd! Galwch heibio i The Steakcoach.
Mae’r lleoliad unigryw yma’n cynnig brecwast llawn wedi'i goginio ac ystod o ddewisiadau cinio, gan gynnwys safle poblogaidd dros dro sy’n gwerthu pizzas.
Mae modd bwyta yn yr hen fws neu yn yr ardal awyr agored – peidiwch â phoeni am y tywydd, cewch chi gysgodi rhag y glaw o dan y gasebo!
Ble: Gelli, CF41 7UW
Math: Take-away, Café