Taylor's Fish and Chips: Trealaw
Mae gan Taylor's, sydd wedi ennill gwobrau, ddwy siop pysgod a sglodion yng Nghwm Rhondda.
Mae'r siop ym mhentref Trealaw yn cynnig ystod eang o brydau pysgod a sglodion traddodiadol blasus, yn ogystal â'r seigiau hanfodol - cyrri, grefi a ffa pob.
Mae hefyd yn gweini ystod o basteiod gan ddefnyddio'r cynnyrch Cymreig gorau, yn ogystal â ffefrynnau cartref, gan gynnwys cyrri cyw iâr, ffagots, pys a llawer yn rhagor.
Mae Taylor's wedi ennill sawl gwobr am ei ymdrechion i ddefnyddio cynnyrch cynaliadwy a hefyd am ansawdd a blas ei bysgod a sglodion.
Ble: Trealaw, CF40 2UG
Math: Take-away