Peppers
Dyma dŷ bwyta poblogaidd a thrwyddedig yn nhref hanesyddol Aberdâr.
Mae Peppers wedi bod yn lle cyfarwydd yn Aberdâr am lawer o flynyddoedd bellach. Mae gyda'r tŷ bwyta drwydded ac mae'n gwerthu cwrw lleol, yn ogystal â gwin a choctels.
Mae modd i staff eich helpu chi i ddewis y ddiod berffaith i gydweddu eich pryd, o frecwastau wedi'u coginio i frecinio, byrgyrs a phrydau arbennig, gan gynnwys cyrïau.
Ble: Aberdâr., CF44 7AP
Math: Restaurant, Take-away