|
| Bar unigryw yn gwerthu’r gorau o gwrw crefft bragdy Grey Trees yn Aberdâr, yn ogystal â chwrw poblogaidd gan fragwyr annibynnol eraill.
Mae bragdy Grey Trees wedi’i leoli yn Aberdâr ac mae’n gwneud y cwrw crefft gorau oll o ffynonellau dŵr ffres Cymreig. Mae cwsmeriaid yn mwynhau’r cwrw mewn poteli, caniau ac o'r gasgen a gweinir y cwrw mewn tafarndai, bariau a bwytai ledled y DU – gan gynnwys y Stranger’s Bar yn Nhŷ’r Cyffredin.
Bar blaen siop yw’r National Tap ar gyfer bragdy Grey Trees, lle cewch flasu a mwynhau’r cwrw ar y safle, neu brynu poteli neu ganiau i fynd adref gyda chi.
Mae'r bar modern, cyfeillgar yn gyfeillgar i gŵn, felly cewch fwynhau hanner Cwrw Golau Affgan y Grey Trees gyda'ch ci Affgan! Mae croeso hefyd i blant sy'n dod gydag oedolyn tan 8.30pm.
Mae'n cynnig seddi dan do ac yn yr awyr agored i fwynhau'r detholiad gorau o ddiodydd gan fragwyr annibynnol - does dim lagers safonol yma nac unrhyw frandiau mawr.