Skip to main content

Siop Cwm Farm

Prydau go arbennig o gig a chynnyrch lleol, wedi eu paratoi gan arwyr lleol!

Mae bwyty Siop Cwm Farm ar agor yn ystod y dydd, bob dydd.

Ymunwch â nhw am frecwast blasus (cig ac wyau lleol) a bwydlen brynhawn amrywiol sy’n cynnwys cawliau fegan, byrgyrs a rhagor. Ar ddydd Sul ewch am frecwast neu ginio dydd Sul.

Mae'r bwyty ar agor rhwng 9am a 4pm bob dydd (yr archeb olaf ar gyfer cinio dydd Sul yw 2pm) ond yn achlysurol, mae'r bwyty'n agor gyda'r nos hefyd. Ffoniwch ymlaen llaw i gadw bwrdd.

Maen nhw hefyd yn cynnal sesiynau meic agored a sesiynau jamio byw gyda'r nos. Ambell waith bydd canwr byw'n diddanu hefyd.

Cofiwch gymryd yr amser, pan fyddwch chi yno, i bori drwy'r holl ddanteithion Cymreig mae Siop Cwm Farm yn eu gwerthu. Ymhlith y cynnyrch blasus mae Seidr Gwynt Y Ddraig, dipiau fegan Do Goodly Llanelli, Fodca’r UA Abertawe, Wisgi Penderyn, caws Eryri a llawer rhagor!

Ble: Treorci, CF42 6DL

Math: Restaurant, Take-away, Café

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Café
  • Great for drinks
  • Restaurant