Colliery 19
Colliery 19 yw un o'r llefydd mwyaf ‘cŵl’ ac unigryw i fwyta yng Nghwm Rhondda.
Fyddwch chi ddim yn dod o hyd i'r caffi yma ar y stryd fawr nac yng nghanol prysurdeb y dref, gan ei fod wedi'i leoli ar gampws y coleg lleol a chaiff ei gynnal gan griw o fyfyrwyr eithriadol.
Yma, maen nhw'n rhoi eu sgiliau ar waith, o ddewis y ffrwyth a llysiau lleol gorau a'r darnau gorau o gig, i greu coctels a phrydau arbennig.
Mae'r fwydlen yn newid bob pythefnos ac mae'r oriau agor yn gyfyngedig, ond dyma gyfle i fwynhau bwyta mewn lleoliad unigryw am bris rhesymol.
Mae cyfle i wledda ar sgolopiau, cawl, pysgod wedi'i ffrio, sorbed a llawer yn rhagor.
Ble: Llwynypia, CF40 2TQ
Math: Restaurant