Love is in the Air in Rhondda Cynon Taf
Cwympwch mewn cariad gyda Rhondda Cynon Taf ym mis Chwefror. Mae'n fis rhamant ac mae'r gwanwyn ar droed. Dyma rai o'r lleoedd gorau i fwynhau pryd o fwyd, diod, antur neu gwtsh!
Bwyd sy'n tynnu dŵr o'r dannedd... Mwynhewch bryd rhamantus yn Neuadd Glan-elái.
Cwympwch mewn cariad â rhywbeth gwahanol – rhowch gynnig ar fwyd stryd arobryn Janet's Authentic Northern Chinese Cuisine.
Beth am bicnic? Ewch i siop sglods Penaluna a mwynhau bwyta yn yr awyr agored.
Rhywbeth at eich dant! Dewiswch o blith dros 60 o flasau o hufen iâ yn Sub Zero – hoffech chi grêp, waffl neu gôn?
Iechyd da! Ewch am ddiod (neu ddwy) gyda'ch cariad i The Tipsy Owl neu La Luna
Ymlaciwch o dan y sêr o flaen pwll tân. Trefnwch noson yn Fernhill Farm
Dau gi bach yn mynd i'r... caffi! Ewch â'ch ci am 'puppachino' yng nghaffi Clwb Coffi