Ddiwrnod Cenedlaethol Hufen
Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Hufen Iâ heddiw – am esgus gwych i fwynhau dantaith oer a melys (nid bod wir angen esgus). Dyma'r 'sgŵp' ar y llefydd gorau i fwynhau hufen iâ yn Rhondda Cynon Taf.
Y Dylanwad Eidalaidd
Cafodd siopau hufen iâ a choffi – o'r enw Bracchis – eu hagor ledled Rhondda Cynon Taf gan Eidalwyr a ddaeth i fyw yma yn ystod cyfnod o ffyniant glofaol.
Mae rhai ohonyn nhw ar agor hyd heddiw, gan gynnwys Servini's yn Aberdâr a Conti's yn Nhonypandy (sydd dal i werthu hufen iâ).
Mae Caffe Bracchi yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn ddathliad o'r Eidalwyr wnaeth ymgartrefu yn Rhondda Cynon Taf. Mae Taith Pyllau Glo Cymru'n dod â hanes epig y pyllau glo a diwydiant yr ardal yn fyw, gyda thywyswyr oedd yn arfer gweithio'n lowyr yn ei adrodd.
Sub Zero
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i'r enwog Sub Zero, sydd bellach ar werth mewn cyrchfannau ledled Cymru. Agorodd y cwmni ei siop gyntaf ym Mhenrhiw-fer, ac mae dewis o dros 60 o flasau. Wedi i chi benderfynu pa flas(au) rydych chi eisiau, mae’n bryd dewis os ydych chi eisiau'ch hufen iâ mewn côn, twb, crempog neu ar waffl poeth – a dewis saws!
Hufen iâ â golygfa.
Hufen iâ â golygfa. Does dim ots pa flas fydd ar yr hufen iâ, bydd e bob tro'n blasu'n well gyda golygfa fel hyn – golygfan mynydd y Rhigos yw un o’r mannau gorau i ymlacio.
Shake, Waffle and Cone
Hufen iâ a mwy! Mae Shake, Waffle N Cone wedi'i leoli ar Stryd y Farchnad yn Aberdâr, ac mae'n gwerthu hufen iâ, waffls, treiffls, slwtsh, cacennau a phethau eraill. Lle perffaith i ddod am ddantaith melys dros yr haf. Ewch â'ch bwyd mas a’i fwynhau ar dir prydferth Parc Aberdâr, sydd â maes chwarae antur, pad sblasio, llyn cychod a mwy.
Scoops and Smiles
Mwynhewch 'gelato' cartref, hufen iâ, 'sundaes', cacennau a choctels slwtsh yn Scoops and Smiles yn Nglynrhedynog, sydd â seddau dan do ac awyr agored, gan gynnwys gerddi yn y blaen a'r cefn. Bendigedig.
Mynydd Bwlch
Wyt ti m-'oen' rhannu hwnna?! Mae cilfan ar ben Mynydd y Bwlch – lle mae bwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn cwrdd – yn le annisgwyl i fod yn gyrchfan i ymwelwyr, ond mae pobl wrth eu bodd. Mae modd i chi weld am filtiroedd o'r olygfan, sydd â'i fan hufen iâ ei hun. Cymerwch ofal rhag y defaid lleol – dydyn nhw ddim yn swil!
10 Below
Enillodd Treorci wobr Stryd Fawr Annibynnol Orau y DU, a does dim rhyfedd pam. Mae cymysgedd gwych o siopau ganddi, a lleoedd i fwyta ac yfed. Er enghraifft, siop hufen iâ 10 Below, y lle perffaith i ymlacio ar ôl prynhawn o siopa!
Kirsty's Kandy
Kirsty's Kandy yn y Porth yw'r lle i gael hambyrddau hufen iâ anferth, gyda blasau blasus megis Mega Meringue, Cookie Crunch a Fizzy Whizzy. Maen nhw hefyd yn gwerthu amrywiaeth o flasau Sub Zero. Yn ogystal, dyma'r lle i gael peth o'ch hoff losin retro neu Americanaidd tra byddwch chi yno. Beth am i chi fynd â'ch archeb tu fas a’i fwynhau ar dir hardd Parc Bronwydd?
Mr Creemy
Traddodiad Cwm Rhondda yw ymweliad â Mr Creemy, ac mae eu siop nhw ym Mhen-y-graig yn llawn blasau gwahanol o hufen iâ, yn ogystal â phwdinau hufen iâ, waffls, conau a mwy. Maen nhw hefyd yn gwerthu sorbedau braf – bendith ar ddiwrnod poeth. Pam na ewch chi â'ch Mr Creemy draw i Barc Pen-y-graig a'i fwynhau yn yr awyr agored mewn lle hardd?
Peidiwch ag anghofio am y cŵn!
Peidiwch ag anghofio am y cŵn! Mae Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Gwledig Barry Sidings yn croesawu cŵn ac mae hufen iâ Mario’s Utterly Mutterly ar werth – felly gall eich cyfeillion â phedair coes ymuno â’r dathliadau.