Skip to main content

Golff a RhCT

A yw chwarae golff at eich dant chi? Mae gyda ni bump cwrs golff yn Rhondda Cynon Taf. Mwynhewch rownd o golff filoedd o droedfeddi uwchben lefel y môr, wedi'i amgylchynu gan olygfeydd o'r Cymoedd.

Clwb Golff Pontypridd

Clwb Golff Pontypridd 

Cafodd Cwrs Golff Pontypridd ei sefydlu dros 100 mlynedd yn ôl. Mae'n sefyll rhwng Môr Hafren ger Caerdydd a phen isaf Cwm Rhondda. Mae'r rhan yma o Gymru yn brydferth, ac mae'n cynnig golygfeydd naturiol bendigedig lle mae modd gweld boncathod uwchben y ffyrdd clir. Rhagor o Wybodaeth

Ponty golf banner

Clwb Golff Cwm Rhondda

Clwb Golff Cwm Rhondda

Mae Clwb Golff Cwm Rhondda yn cyfuno tir gwyllt yr ardal â chwrs golff heriol a golygfeydd anhygoel.

Mae'r cwrs yn sefyll 1,000 troedfedd uwchben lefel y môr – byddwch chi'n chwarae ar ben y mynydd, uwchlaw rhesi o fythynnod glowyr.

 Rhagor o wybodaeth

Rhondda golf 5

Clwb Golff Aberdar

Clwb Golff Aberdâr 

Ers dros 100 mlynedd, mae Clwb Golff Aberdâr wedi edrych dros Gwm Cynon. Mae’r cwrs hardd yma'n enwog am ei olygfeydd, ei goed derw aeddfed a'r croeso cynnes sy'n cael ei roi yma.

Mae yna glwb gyda bar sy'n gweini amrywiaeth o fyrbrydau a phrydau mwy, a phatio hardd lle mae modd i chi fwyta neu fwynhau diod oer ar noson braf.

aberdare golf banner

Clwb Golff Llantrisant a Phont-y-clun

Clwb Golff Llantrisant a Phont-y-clun

Mae Clwb Golff Llantrisant a Phont-y-clun yn ‘berl cudd’ yng nghanol Tonysguboriau, i'r de o'r Fwrdeistref Sirol. Rhagor o wybodaeth

LlantrisantGC1

Clwb Golf Aberpennar

Clwb Golf Aberpennar 

Yn swatio ar ben Mynydd Cefnpennar, mae Cwrs Golff Aberpennar yn croesawu ymwelwyr dydd i chwarae ar ei gwrs 18 twll, par 69. Rhagor o wybodaeth

 

mountain ash golf club banner