Pysgota
Mae nifer o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau pysgota mewn afonydd a llynnoedd yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau pysgota sy'n croesawu ymwelwyr i'w sesiynau pysgota mewn llynnoedd ac afonydd.
Mountain Ash Fly Fishers' Association
Mae Cymdeithas Pysgota â Phlu Aberpennar yn cynnig pysgota o safon yng Nghronfa Ddŵr Penderyn ac mae modd i ymwelwyr fachu ar y cyfle i brynu tocynnau diwrnod.
![Mountain Ash Fly Fishing at Penderyn Reservoir](/image-library/Mountain-ash-fly-fishing-3.xab0751eb.jpg?crop=1000,900,100,0)
Cymdeithas Pysgotwyr Plu Osprey
Mae Cymdeithas Pysgotwyr Plu Osprey yn cynnig pàs dydd ar gyfer sawl rhan o Afon Taf ac Afon Rhondda a chronfeydd dŵr Bannau Brycheiniog.
![Ospreys Fly Fishers' Association](/image-library/ospreys1.xf27a4ba1.jpg?crop=1000,900,114,0)
Pysgodfa Tri Nant
Mae Pysgodfa Tri Nant yn sefyll mewn 45 erw o gefn gwlad diarffordd, ac mae chwe erw wedi’u gorchuddio gan y dyfroedd pysgota.
![tri nant 4](/image-library/trinant4.xe056262c.jpg?crop=1000,900,100,0)