Taith Gerdded drwy goedwig Tyn-y-Bedw
Mae'r daith gerdded yma'n eich arwain chi'n uchel ym mynyddoedd Cwm Rhondda ac yn cychwyn ar Stryd Fawr arobryn Treorci (rhagor am hyn yn ddiweddarach - beth am i ni nodi nad yw'r antur yn gorffen gyda'r daith!)
Ymlwybrwch drwy'r stryd teras prysur cyn mynd ymlaen at y llwybr lle mae Mam Natur yn cymryd drosodd. Wedi i chi gychwyn y daith, byddwch chi'n canfod un o'r sawl pwll sydd wedi'u gwasgaru ar hyd y daith gerdded.
Esgynnwch y mynyddoedd - mae sawl darn serth, ond mae'r daith gerdded yn rhwydd ar y cyfan - wrth ichi fynd ar gylchdaith ar hyd ochr y mynydd hyd at y man uchaf sy'n 470 metr o uchder. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau ar y daith yn amlwg ond mae sawl darn mwdlyd mewn mannau.
Rhowch garreg ar ben y garnedd ar y copa - traddodiad mynydda - a mwynhewch y golygfeydd godidog dros Dreorci a Phentre, ynghyd â'r ardal oedd unwaith yn Lofa Ty'n y Bedw a gaeodd yn 1933.
Ceisiwch weld Yr Oval, maes Clwb Rygbi enwog Treorci, sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel Y Sebras.






