Taith Cynon
Gan ddechrau yn Abercynon a gorffen yn Hirwaun, dyma lwybr troellog i ogledd-orllewin Cwm Cynon.
Teithiwch ymlaen i Gaegarw ac Aberpennar. Yno bydd modd i chi weld y cerflun o'r rhedwr lleol enwog, Guto Nyth Brân – mab i ffarmwr, gafodd ei eni yn 1700. Bob Nos Galan, mae pobl y dref yn cynnal Rasys Nos Galan er cof amdano.
Dilynwch y daith i bentref Cwm-bach, sy'n enwog am ei gôr meibion, ac ymlaen i dref lofaol gynt Aberdâr – y porth at 500 erw o gefn gwlad godidog ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Mae gweithgareddau llyn ar gael yno, a chanolfan ymwelwyr ryngweithiol. Mae'n lle perffaith i gael picnic, ac mae'r caffi â'r enw croesawgar yno hefyd Caffi Cwtsh.
Mae'r llwybr wedi'i gysylltu â Pharc Afon Cynon lle mae labrinth o lwybrau beicio'n cael ei ddatblygu. Mae rhan Abercynon hefyd yn cysylltu â Llwybr Taith Taf.






