The Tipsy Owl
Mae The Tipsy Owl yn far coctêls annibynnol sy'n gweini coctêls unigryw sydd wedi'u hysbrydoli gan fythau, chwedlau a thirnodau Rhondda Cynon Taf.
Maen nhw'n defnyddio cynhwysion sydd wedi cael eu cynhyrchu neu wedi dod o ffynhonnell leol.
Er enghraifft, mae eu coctêl anhygoel, Guto Nyth Brân yn ddathliad o'r rhedwr chwedlonol oedd yn ysbrydoliaeth i'r Rasys Nos Galan. Ei sail yw te sinsir o Cortile Coffee ym Mhontypridd, wedi'i flasu â mêl o’r Graig gerllaw.
Mae ffefrynnau eraill yn cynnwys y Rocking Stone sy'n cynnwys ysgawen i ddathlu chwedl Y Maen Chwyf - "Côr y Cewri" Pontypridd a'r Genhinen Bedr ddisglair i ddathlu blodyn cenedlaethol Cymru.
Mae modd ichi fwynhau eich coctêl â bwrdd pori melys neu sawrus wedi'i ddarparu gan Little Pickers Grazing Co gerllaw.
Ble: Pontypridd, Cf37 4PE
Math: Bar







