Skip to main content

Y Brynffynnon

Prydau cartref, amrywiaeth wych o ddiodydd a thân coed clud.

Dyma'r lle perffaith i ymlacio a bwyta ar ôl archwilio Coedwig Llanwynno sy'n cynnwys rhaeadr gudd, cronfa ddŵr a milltiroedd o deithiau cerdded.

Galwch heibio i Eglwys Sant Gwynno, gyferbyn â'r dafarn i weld bedd Guto Nyth Brân, dyn cyflymaf y byd ar un adeg.

Mae'r Rasys Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar gerllaw bob blwyddyn i'w ddathlu ac i "Gadw'r Chwedl yn Fyw".

Mae sêr y byd chwaraeon megis Leigh Halfpenny a Linford Christie wedi rhoi blodau wrth ei fedd i nodi dechrau'r achlysur.

Ble: Llanwonno, CF37 3PH

Math: Restaurant, Bar

Cysylltwch â ni